Annog rhieni i roi anrheg 'Cymraeg' y Nadolig hwn
- Cyhoeddwyd
Wythnos yn unig ar ôl i ganlyniadau'r cyfrifiad ddatgelu bod llai yn siarad Cymraeg caiff rhieni eu hannog i roi'r iaith yn anrheg dros y Nadolig.
Daw'r syniad gan Twf, mudiad sy'n hyrwyddo manteision magu plant yn ddwyieithog yng Nghymru.
Mae Twf wedi paratoi offer Her Cymraeg y Nadolig gyda 10 o eiriau ac ymadroddion Cymraeg i deuluoedd eu defnyddio fore Nadolig.
Dywedodd llefarydd: " Rydym yn annog rhieni, neiniau a theidiau a'u teuluoedd estynedig yng Nghymru i drosglwyddo'r rhodd o'r iaith i genedlaethau'r dyfodol.
"Unwaith y bydd y geiriau wedi'u defnyddio, gall y plant eu torri allan a'u gosod i addurno'r goeden Nadolig."
Un sy'n cefnogi'r ymgyrch yw'r cyflwynydd radio a theledu BBC Cymru, Bethan Elfyn.
Mae hi'n magu ei merch 10 mis oed, Tegan, yn ddwyieithog.
Hyder gydag ieithoedd
"Dim ond baban yw Tegan ond rydyn ni'n gwneud yn siŵr ei bod yn clywed Cymraeg a Saesneg fel ei bod yn eu dysgu'n naturiol o'r cychwyn," eglurodd Bethan.
"Yn y gogledd y cefais i fy magu, Cymraeg yw fy iaith gyntaf ac mi fyddai'n braf i'm merch hefyd dyfu'n ddwyieithog a bod yn hyderus wrth drin ieithoedd.
"Er nad yw fy ngŵr yn siarad Cymraeg, rydyn ni'n dal i allu magu Tegan mewn cartref dwyieithog.
"Mae'n bwysig cofio nad oes yn rhaid i rieni fod yn hollol rugl i fagu diddordeb yn yr iaith yn eu plant."
Un arall sy'n gefnogol i'r cynllun yw Iwan Williams o Landeilo.
Mae'n Gymro Cymraeg ond mae ei wraig yn dysgu'r Gymraeg.
Dywedodd Mr Williams bod hynny yn dod yn haws efallai wrth iddyn nhw fagu eu mab pedwar mis oed yn ddwyieithog.
"Cymraeg fydda i yn siarad efo Dyfan," meddai.
"Mae'r wraig wedi bod yn cael gwersi ers rhai blynyddoedd ond mae hi'n dysgu gyda Dyfan rŵan.
"Mae nifer o rieni yn yr un sefyllfa, nifer yn dysgu efo'r plant ac mae'n bwysig bod Dyfan yn ddwyieithog.
"Mae'n rhan o'i etifeddiaeth.
"Mae'n hynod o bwysig bod Twf yn rhoi'r gefnogaeth yna, wrth i Dyfan fynd i weithgareddau drwy'r Gymraeg mae'n gyfle i'r rhieni di-Gymraeg ddysgu'r iaith hefyd."