Canwr o flaen llys ar gyhuddiadau o droseddau rhyw

  • Cyhoeddwyd
Ian Watkins
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ian Watkins yn un o dri sydd wedi eu cyhuddo o droseddau rhyw

Mae prif ganwr band y Lostprophets wedi ymddangos o flaen llys wedi ei gyhuddo o gynllwynio i dreisio merch fach blwydd oed.

Mae Ian Watkins, 35 oed, o Bontypridd yn wynebu chwe chyhuddiad o droseddau rhywiol yn erbyn dau blentyn ifanc.

Cafodd ei gyhuddo o gynllwynio i gyflawni gweithred rywiol gyda merch dan 13 a phedwar cyhuddiad o feddu ar, neu ddosbarthu, delweddau anweddus o blant.

Cafodd Mr Watkins ei gadw yn y ddalfa.

Clywodd y llys nad oedd wedi cyfadde' i unrhyw un o'r cyhuddiadau sy'n dyddio rhwng Mai a Rhagfyr eleni.

Mae menyw 24 oed yn wynebu cyhuddiadau tebyg i Mr Watkins, a menyw 20 wedi ei chyhuddo o bump o'r troseddau ond nid o gynllwynio i dreisio.

Roedd y tri o flaen Ynadon Caerdydd ddydd Mercher.

Gwrthodwyd mechnïaeth i'r tri, ac fe fyddan nhw'n ymddangos yn y llys eto ar Ragfyr 31.