Elusen yn apelio am hen offer garddio

  • Cyhoeddwyd
Tŵls
Disgrifiad o’r llun,

Mae offer yn cael eu hanfon i gymunedau anghenus

Mae yna apêl o'r newydd ar i bobl edrych am hen dŵls gan elusen sy'n eu hadfer a'u hanfon i gymunedau anghenus.

Mae elusen Tools for Self Reliance wedi bod yn adfer pethau fel hen offer saer neu hen offer garddio ers dros 30 o flynyddoedd.

Dywedodd Colin Hill o Fancffosfelen yng Nghwm Gwendraeth, Sir Gaerfyrddin fod hen dŵls yn cael eu hanfon i Affrica ond hefyd i elusennau yng Nghymru, gan gynnwys MENCAP

Mae o a thîm bach yn adnewyddu hen offer neu dŵls mewn gweithdy bach ym Mancffosfelen.

Offer garddio, tŵls trwsio ceir, offer gwnio, ac offer gof - mae'r cyfan yn cael eu glanhau a'u hadnewyddu.

Ansawdd

Ychwanegodd fod apêl o'r newydd yn ystod y gaeaf oherwydd bod hwn yn gyfnod anoddach.

"Oherwydd y tywydd garw a'r ffaith ei bod hi'n oer dyw pobl ddim yn mentro mor aml i'r hen shed ar waelod yr ardd.

"Rydym yn dueddol o gael mwy o dŵls fel rhodd yn ystod misoedd yr haf na'r gaeaf."

Disgrifiad o’r llun,

Mae pump o bobl yn gweithio i'r elusen ym Mancffosfelen

Yn ôl Mr Hill mae hen dŵls fel rheol o ansawdd dda, ac yn arbennig o dda ar gyfer eu hanfon i Affrica unwaith iddyn nhw gael eu hadnewyddu.

"Mae'r tŵls o safon uchel, yn aml iawn dim ond tŵls sydd wedi eu mewnforio o Asia mae pobl Affrica yn gallu eu fforddio, a dyw'r deunydd ddim o'r un safon a ddim yn debygol o bara mor hir."

Yn ôl Mr Hill mae unrhyw offer sy'n cael eu hadnewyddu ond sydd ddim yn cael eu rhoi i elusen yn cael eu gwerthu.

Mae'r arian wedyn yn cael ei ail fuddsoddi yn y fenter.

Mae canolfan gasglu hen offer ar gyfer elusen wedi ei leoli ym Mhensarn, Caerfyrddin.

Dywed yr elusen eu bod hefyd yn fodlon mynd i gartrefi pe bai angen er mwyn casglu hen offer.