Cyfyngiadau pwysau newydd ar Bont y Borth yn sgil 'cyngor brys'

Fe fydd y cyfyngiadau newydd yn dod i rym ar unwaith, yn ôl y llywodraeth
- Cyhoeddwyd
Mae cyfyngiadau pwysau newydd wedi eu cyflwyno ar un o'r pontydd sy'n cysylltu Ynys Môn â'r tir mawr yn dilyn "cyngor brys" gan beirianwyr.
Fe fydd Pont y Borth, neu Bont Menai, ar agor i gerbydau sy'n pwyso llai na thair tunnell yn unig, ac mae'r cyfyngiadau newydd yn dod i rym ar unwaith.
Ni fydd unrhyw gerbydau sy'n pwyso mwy na'r terfyn newydd yn cael croesi ac fe fydd yr heddlu yn sicrhau bod pobl yn cydymffurfio.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y newid wedi ei gyflwyno ar sail argymhelliad gan beirianwyr, ar ôl i ymchwiliad ddangos bod angen ailosod "rhai o'r bolltau ar drawstiau o dan y bont".
- Cyhoeddwyd16 Mai
- Cyhoeddwyd28 Medi 2023
- Cyhoeddwyd10 Awst 2019
Dywedodd y llywodraeth fod y peirianwyr sy'n gyfrifol am gynnal a chadw'r bont, Priffyrdd y DU A55, wedi dweud bod y bont yn ddiogel i draffig ei defnyddio gyda'r terfyn pwysau newydd.
Bydd y terfyn pwysau yn aros mewn grym nes bod ymchwiliadau pellach wedi digwydd.
Mae disgwyl rhagor o fanylion yn y dyddiau nesaf ynglŷn ag effaith y newid ar y gwaith sy'n cael ei gynnal ar y bont ar hyn o bryd.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Môn, Gary Pritchard fod y cyhoeddiad yn amlygu pryderon sydd wedi eu codi yn y gorffennol.
"Er ein bod yn deall y rhesymeg dros gyfyngu'r traffig dros Bont Menai, mae'n bryder i ni fel trigolion na chafodd y gwendid yma ei amlygu yn ystod yr archwiliadau blaenorol," meddai.
"Mae'r cyfyngiadau yn amlygu unwaith yn rhagor y pryder rydym ni fel gwleidyddion Ynys Môn wedi ei ddatgan dro ar ôl tro am ddiffyg gwytnwch ein cysylltiadau gyda'r tir mawr."
Ychwanegodd Rhun ap Iorwerth, yr Aelod lleol o'r Senedd fod y newyddion yn sicr o "achosi rhwystredigaeth".
"Er bod yn rhaid i ddiogelwch barhau i fod yn flaenoriaeth, rydym bellach bron i dair blynedd i mewn i'r gwaith atgyweirio ac mae problemau newydd yn dal i gael eu darganfod, a allai achosi oedi pellach.
"Mae trigolion Ynys Môn yn haeddu eglurder ynghylch sut y bydd y datblygiad diweddaraf hwn yn effeithio ar amserlen y prosiect, a pha gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i liniaru'r effeithiau negyddol."
'Nid yw hon yn sefyllfa ddelfrydol'
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:
"Y cyngor brys gan beirianwyr strwythurol yw y dylai Pont Menai gael terfyn pwysau newydd.
"Nid yw hon yn sefyllfa ddelfrydol, ond mae'n rhaid i ni wrando ar gyngor peirianwyr.
"Rwy'n gwybod y bydd hyn yn achosi pryder arbennig heno gyda dyfodiad Storm Amy a'r effaith bosibl y gallai hyn ei chael ar Bont Britannia.
"Mae trefniadau ar waith i gerbydau brys groesi pe bai'r Britannia ar gau oherwydd gwyntoedd cryfion.
"Byddwn yn parhau i bwyso ar Briffyrdd y DU A55 am ddatrysiad cynnar i'r sefyllfa hon sy'n peri pryder i mi a llawer o bobl eraill."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.