Gwagio tai wedi tirlithriadau
- Cyhoeddwyd
Cafodd 11 o dai eu gwagio yn dilyn tirlithriad mewn pentref ger Abertawe nos Sadwrn, ac mae rhes o dai ym Mhontypridd wedi cael eu gwagio wedi i wal ddymchwel yno fore Sul.
Treuliodd rhai o drigolion Ystalyfera'r noson mewn canolfan hamdden.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu bod wedi gadael y safle am 3am fore Sul, a bod pedwar eiddo yn dal yn wag.
Dymchwelodd wal ym Mhontypridd ar res o dai gan adael tunnelli o rwbel ar hyd y rhes.
Dywedodd David Craig, tad un o'r bobl sy'n byw yn Ffordd Berw ym Mhontypridd:
"Mae'r rwbel yn cyrraedd hyd at ffenest y lloft mewn rhai o'r tai. Dwn i ddim sut na chafodd rhywun eu lladd."
Rhybuddion
Mae llifogydd yn parhau i achosi trafferthion ar y rheilffordd rhwng Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr a ger Caersws ym Mhowys.
Mae 7 rhybudd llifogydd mewn grym gan Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, sef:-
Afon Teifi - Llanbedr Pont Steffan a Llanybydder;
Dyffryn Dyfi - i'r gogledd o Fachynlleth;
Afon Elái - Llanbedr y Fro;
Afon Elái - Sain Ffagan;
Afon Elái - Trelái yng Nghaerdydd;
Afon Rhydeg - Dinbych-y-pysgod;
Dyffryn Dyfrdwy isaf - rhwng Llangollen a Chaer.
Trenau
Yn y cyfamser dywed cwmni Trenau Arriva Cymru bod y trafferthion gyda signalau ger Caerdydd wnaeth amharu ar drenau ddydd Sadwrn bellach wedi eu datrys ac mae'r gwasanaethau yn ôl i'r arfer.
Ond mae llifogydd wedi cau leiniau rhwng Caerdydd Canolog a Phen-y-bont ar Ogwr, a rhwng Caersws a Machynlleth ym Mhowys.
Mae gwasanaeth bysiau yn rhedeg rhwng Caersws a Machynlleth, ond does dim gwasanaeth o'r fath rhwng Caerdydd a Phen-y-bont.
Dywedodd Derek Brockway, dyn tywydd BBC Cymru, bod rhwng 14mm a 60mm o law wedi disgyn dros rannau o Gymru yn y 48 awr hyd at 6:00am fore Sul, ond y byddai'n sychu ddydd Sul gyda'r gwynotedd yn gostegu rhywfaint.
Yn Llancarfan ym Mro Morgannwg, bu'n rhaid i gwsmeriaid mewn tafarn achub gyrrwr o Afon Carfan brynhawn Sadwrn.
Roedd y fenyw yn gyrru drwy'r pentref - sydd â rhyd yn yr afon - pan aeth ei char Mini yn sownd yn y dŵr.
Dywedodd Sue Millard, sy'n rhedeg tafarn y Fox and Hounds gyda'i gŵr John: "Aeth y car yn sownd ar bont ger neuadd y pentref.
"Yn ffodus iddi hi, fe ddaeth i stop yn y canol yn hytrach na rhwng y ddwy fynedfa bob ochr."
Dywedodd bod un cymydog ac un cwsmer wedi torri ffenest y car, a pherswadio'r fenyw i ddod allan er ei bod wedi dychryn yn arw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2012