Mwy'n gadael eu tai wedi tirlithriad yn Ystalyfera

  • Cyhoeddwyd
Golygfa wedi'r tirlithriad yn Ystalyfera
Disgrifiad o’r llun,

Dywed y cyngor na fydd gwaith yn cael ei wneud cyn asesiad ddydd Gwener

Mae tirlithriad dros y penwythnos yn dal yn ansefydlog wrth i'r tywydd gwlyb barhau, yn ôl Cyngor Sir Castell-nedd Port Talbot.

Erbyn hyn mae 13 o deuluoedd wedi eu cynghori i adael eu cartrefi ar ôl y tirlithriad yn Ystalyfera nos Sadwrn.

Fydd 'na ddim gwaith yn cael ei wneud yno tan ddydd Gwener.

"Dydi'r tywydd ddim yn help," meddai John Flower, cyfarwyddwr amgylcheddol yr awdurdod.

Yn wreiddiol roedd 11 o deuluoedd wedi cael eu symud o'u cartrefi yn ardal Pant-teg.

Er bod swyddogion wedi nodi bod yr ardal yn debygol o ddiodde' o dirlithriadau roedd y tirlithriad yn "gam dramatig" o ganlyniad i bridd gwlyb symud a phwyso yn erbyn tai dros ryw 200 metr o ffordd.

Mae'r amgylchiadau yn ôl Mr Flower, yn rhy beryglus i beirianwyr fynd at y safle ar hyn o bryd.

Mae archwiliadau gweladwy yn cael eu cynnal yn ddyddiol ond bydd asesiad llawn ddydd Gwener.

"Mae'r sefyllfa ar hyn o bryd yn ansefydlog iawn," meddai.

"Dwi ddim yn gweld y sefyllfa yn newid tan ar ôl y gwyliau."

Mae rhai trigolion yn honni y dylai'r cyngor fod wedi gwneud mwy i glirio ceuffosydd yn gynt a'u bod wedi cysylltu gyda nhw yn gynharach yn y mis i ddweud bod y tir yn ansefydlogi.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol