Annog gwella systemau diogelwch i atal marwolaethau yn y gweithle

  • Cyhoeddwyd
Purfa Chevron
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd pedwar o bobl eu lladd mewn ffrwydrad yng ngwaith olew Chevron, Sir Benfro

Roedd 'na gynnydd o bron i draean yn nifer y marwolaethau yn y gweithle yng Nghymru yn ôl y Gweithgor Iechyd a Diogelwch.

O ganlyniad mae'r rheoleiddiwr wedi gofyn i fusnesau ail ystyried eu systemau diogelwch yn y flwyddyn newydd.

Yng Nghymru rhwng Ebrill 2011 a mis Mawrth 2012 bu farw 18 o bobl.

Yn 2010-11 bu farw 11 a saith fu farw yn 2009-10.

Yn 2011-12 cafodd 1,213 anafiadau difrifol yn y gweithle a 1,141 y flwyddyn flaenorol.

Roedd ychydig llai o weithwyr wedi cael eu hanafu oedd yn golygu o leiaf dridiau i ffwrdd o'r gwaith, 4,723 yn 2011-12 o'i gymharu â 4,898 yn 2010-11.

Glofa a phurfa

Mae marwolaethau pedwar o lowyr yn nhrychineb pwll glo'r Gleision yng Nghwm Tawe wedi eu cynnwys yn yr ystadegau diweddara'.

Maen nhw hefyd yn cynnwys pedwar o bobl gafod eu lladd mewn ffrwydrad ym mhurfa olew Chevron yn Noc Penfro fis Mehefin y llynedd.

Roed y rhan fwya' o'r anafiadau difrifol ar safleoedd yng Nghaerdydd, 185, sydd 37 yn is na'r cyfnod blaenorol.

Ar draws Prydain cafodd 173 o bobl eu lladd yn y gweithle - gostyngiad o ddau.

Cafodd dros 23,000 o weithwyr Prydain fan anafiadau.

"Dwi'n annog cyflogwyr i daclo'r peryglon gwirioneddol y mae gweithwyr yn eu hwynebu yn hytrach na chanolbwyntio ar waith papur di-angen," meddai Rosi Edwards, cyfarwyddwr rhanbarthol Cymru y Gweithgor Iechyd a Diogelwch.

"Fy ngobaith ar gyfer y flwyddyn newydd yw y gallwn ni leihau nifer y marwolaethau ac anafiadau difrifol yn 2012-13 a bod y flwyddyn a ddaw yn un hapusach i deuluoedd."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol