Canwr yn ôl o flaen llys ar gyhuddiadau o droseddau rhyw

  • Cyhoeddwyd
Ian Watkins
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ian Watkins yn un o dri sydd wedi eu cyhuddo o droseddau rhyw

Mae prif leisydd band y Lostprophets wedi ymddangos o flaen llys wedi ei gyhuddo o gynllwynio i dreisio merch fach flwydd oed.

Mae Ian Watkins, 35 oed, o Bontypridd hefyd yn wynebu pum cyhuddiad arall o droseddau rhyw.

Ymddangosodd Mr Watkins yn Llys y Goron Caerdydd drwy gyfrwng cyswllt fideo o garchar y Parc, Pen-y-bont ar Ogwr.

Gwnaeth dwy fenyw na ellir eu henwi am resymau cyfreithiol hefyd ymddangos gerbron y llys.

Cafodd y tri eu cadw yn y ddalfa tan Fawrth 11.

Mae Mr Watkins yn wynebu cyhuddiad o gynllwynio i wneud gweithred rywiol gyda phlentyn dan 13 oed a phedwar cyhuddiad o ddosbarthu ac o fod â delweddau anweddus o blant yn ei feddiant.

Mae'r cyhuddiadau'n dyddio'n ôl rhwng mis Mai a Rhagfyr eleni.

Cafodd dynes 24 oed hefyd ei chyhuddo o'r un cyhuddiadau â Mr Watkins, tra bod merch 20 oed wedi'i chyhuddo o bum cyhuddiad ond nid o gynllwynio i dreisio.