Cyflymu'r gwasanaethau trên?
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni Network Rail wedi cyhoeddi sut y maen nhw'n bwriadu gwario £1 biliwn o fuddsoddiad yn y gwasanaeth rheilffordd yng Nghymru.
Eisoes mae'r cynlluniau wedi eu cyflwyno i Swyddfa Rheoleiddio'r Rheilffyrdd, ac maen nhw'n trafod y cyfnod rhwng 2014 a 2019.
Ymhlith y cynlluniau, mae amserlen i drydaneiddio'r rheilffordd yr holl ffordd o Lundain i Abertawe ac i'r cymoedd, ynghyd â gwella'r daith rhwng de a gogledd Cymru.
Dywed Network Rail bod nifer y teithwyr yng Nghymru wedi tyfu'n sylweddol dros y 10 mlynedd diwethaf. Ar draws Prydain mae'r ffigwr wedi cynyddu o 976 miliwn yn 2002/03 i 1.46 biliwn yn 2011/12, a dywed y cwmni, felly, bod angen gwneud y gwasanaeth rheilffordd yn addas i'r 21ain ganrif.
Oes Fictoria
Dywedodd rheolwr Network Rail yng Nghymru, Mark Langman: "Mae hwn yn gyfnod cyffrous i'r rheilffyrdd.
"Rydym yn cario mwy o deithwyr nag erioed, ar y nifer mwyaf o drenau erioed, gyda'r rheiny yn gweithredu yn fwy dibynadwy nag erioed.
"Rydym hefyd yn rhedeg rheilffordd fwy effeithlon, gyda'r lefel o gymhorthdal o'r pwrs cyhoeddus bron hanner yr hyn oedd ar ei uchaf yn 2006.
"Mae'r cynlluniau yma yn golygu'r buddsoddiad mwyaf yn y rhwydwaith drenau yng Nghymru ers oes Fictoria.
"Mae llawer o'r isadeiledd yn dyddio'n ôl i'r cyfnod yna, ac fe fydd llawer o'r buddsoddiad yma yn gymorth i symud y rhwydwaith i'r 21ain ganrif."
Ymateb
O ystyried y cyfan mae'r cynllun yn golygu naill ai adnewyddu neu ailosod 350 cilometr o drac, ac adnewyddu neu ailosod 480 o gysylltiadau ar y leiniau.
Bydd Network Rail nawr yn aros i'r Swyddfa Rheoleiddio'r Rheilffyrdd i gyhoeddi eu hymateb drafft i'r cynlluniau ym mis Mehefin 2013, ac fe fydd cyfnod o drafod cyn i'r ymateb terfynol yn dilyn ym mis Hydref.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd11 Mai 2012