Cynllun trydaneiddio yn 'hwb i'r economi'

  • Cyhoeddwyd
CymudwyrFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae ymestyn y cynllun o Lundain i Abertawe yn golygu cwtogi'r daith 20 munud rhwng Paddington ac Abertawe.

Bydd trydaneiddio'r rheilffordd i Abertawe a Chymoedd y De yn rhoi hwb sylweddol i economi Cymru, yn ôl gwleidyddion.

Mae penderfyniad Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU yn dilyn ymgyrchu brwd ar ôl i weinidogion gyhoeddi'r llynedd y byddai'r brif lein yn cael ei thrydaneiddio mor bell â Chaerdydd yn unig.

Dydd Llun dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, fod y penderfyniad yn golygu bod "Cymru ar agor i fusnes".

Ychwanegodd mai'r penderfyniad oedd y "cyhoeddiad isadeiledd mwyaf arwyddocaol i Gymru am ddegawdau".

Mewnfuddsoaddiad

"Mae rhaglen Llywodraeth Cymru i foderneiddio rhwydwaith y rheilffyrdd yn golygu y bydd Cymru'n elwa'n uniongyrchol ac anuniongyrchol o bron i £2 biliwn."

Dywedodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad y byddai'r penderfyniad yn un "buddiol iawn i economi Cymru".

"Bydd trydaneiddio'r llinell i Abertawe a'r Cymoedd yn hwb amhrisiadwy i'r rhanbarth ac i Gymru gyfan," meddai.

Dywedodd AS Llafur Gorllewin Abertawe, Geraint Davies, cyn y cyhoeddiad, y byddai'n bwysig o ran mewnfuddsoddiad i'r ardal.

Disgrifiad,

Ymateb y Cynghorydd Geraint Davies o Dreherbert i'r cynllun trydanu

"Mae'r gymuned fusnes am wybod fod y llinell yn mynd i gael ei drydaneiddio o ran dyfodol enw brand Abertawe, sydd yn cael ei adnabod gan 600 miliwn o bobl diolch i'r tîm pêl droed," meddai.

Dywedodd AC Democratiaid Rhyddfrydol De Orllewin Cymru, Peter Black, y byddai'r penderfyniad yn helpu sbarduno'r economi, gwella amseroedd teithio, gostwng allyriadau carbon a chyfrannu at ymdrechion i gael mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus."

"Mae busnesau lleol, academyddion a gwleidyddion o bob plaid wedi cyd-weithio i sicrhau y byddai hyn yn digwydd ac rwy'n hapus bod y llywodraeth wedi gwrando arnynt gan gytuno fod yr achos busnes i ehangu'r cynllun trydaneiddio yn ddigon cryf i'w gymeradwyo."

Mae llefarydd trafnidiaeth Plaid Cymru, Jonathan Edwards AS, wedi croesawu'r cyhoeddiad gan ddweud bod trydaneiddio rhwydwaith y cymoedd yn hir ddisgwyliedig.

"Mae hwn yn gyhoeddiad gwych ac yn dilyn y sylfaen a osodwyd gan Ieuan Wyn Jones pan eod yn Weinidog Trafnidiaeth yn y Cynulliad a chefnogaeth y trawsbleidiau.

"Mae Cymru wedi aros yn llawer rhy hir am brosiectau fel yma."

'Amseroedd teithio'

Disgrifiad,

Adroddiad Catrin Heledd o orsaf drenau Abertawe

Dywedodd David Jones, sy'n uwch reolwr cwmni cyfieithu Wolfestone, sy'n cyflogi 28 o bobl yng nghanol Abertawe, fod pobl yn y ddinas yn meddwl bod Abertawe ar ei hôl hi yn gymdeithasol ac yn economaidd wedi'r penderfyniad i drydaneiddio'r brif lein mor bell â Chaerdydd yn unig y llynedd.

"Nid yw trydaneiddio'r llinell yn ymwneud ag amseroedd teithio yn unig ond mae hefyd yn ymwneud â mewnfuddsoddiad," meddai.

"Mae mewnfuddsoddwyr yn ystyried tri neu bedwar peth pan maen nhw'n ystyried buddsoddi mewn rhanbarth ac mae isadeiledd trafnidiaeth wastad yn mynd i fod yn un ohonynt.

"Mae'n sicrhau bod yr amodau'r un fath i bawb i ddenu busnesau."

"Ond mae'n bwysig cofio fod yn rhaid i'r rhanbarth a busnesau unigol dicio'r bocsys eraill."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol