BBC ac Eos yn dal i drafod

  • Cyhoeddwyd
Logo EosFfynhonnell y llun, other
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Eos yn cwrdd â chynrychiolwyr o'r BBC ym Mangor ddydd Mawrth

Mae trafodaethau'n parhau i geisio datrys yr anghydfod rhwng y BBC ac Eos, y corff sy'n cynrychioli tua 300 o gerddorion Cymraeg.

Cyn diwedd 2012, methodd y ddwy ochr â chytuno ar freindaliadau i ddefnyddio cerddoriaeth Gymraeg ar wasanaeth Radio Cymru.

Mae pennaeth rhaglenni a gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru, Siân Gwynedd, wedi dweud bod cyrraedd cytundeb "yn flaenoriaeth" i'r gwasanaeth.

Ers Ionawr 1 mae newidiadau wedi bod yn yr hyn y mae Radio Cymru yn ei ddarlledu o safbwynt cerddoriaeth gan nad ydyn nhw'n medru defnyddio cerddoriaeth yr artistiaid sy'n aelodau o Eos - tua 300,000 o ganeuon.

Mae rhai caneuon Saesneg a cherddoriaeth glasurol ac offerynnol wedi cael eu chwarae ar yr orsaf ers hynny.

Siarter

Ddydd Llun, cyhoeddodd Cylch yr Iaith eu bod wedi anfon llythyr at benaethiaid BBC Cymru yn pwyso arnyn nhw "i roi cynnig teg i Eos", a dywedodd eu llywydd - y Dr Meredydd Evans - ei fod wedi gwrthod gwahoddiad i ymddangos ar raglen Beti A'i Phobl ar Radio Cymru.

Nos Lun, cafodd y BBC ei gyhuddo o fynd yn groes i'w Siarter Frenhinol drwy "beidio cynnig ffi deg i berfformwyr Cymraeg" gan fudiad Dyfodol i'r Iaith.

Dywedodd Bethan Jones Parry, llywydd y mudiad: "Mae yna ddirywiad amlwg yn y gwasanaeth ar Radio Cymru ers troad y flwyddyn ac mae arwyddion bod gwrandawyr yn troi at orsafoedd eraill.

"Nid yw Radio Cymru bellach yn darparu gwasanaeth i Gymru ac nid yw'n hybu creadigrwydd fel y mae'r Siarter yn ei fynnu."

'Teg a fforddiadwy'

Wrth ymateb i hynny, dywedodd Elan Closs Stephens ar ran ymddiriedolaeth y BBC:

"Nid yw o fudd i neb, gan gynnwys cynulleidfa deyrngar Radio Cymru, fod yr anghydfod hwn yn parhau.

"Rwy'n erfyn ar y ddwy ochr- i ddod i gytundeb teg, a fforddiadwy- er mwyn i Radio Cymru, allu unwaith eto ddarparu'r gwasanaeth llawn sydd mor annwyl gan ei chynulleidfa."

Ddechrau'r wythnos fe wnaeth BBC Radio Cymru gadarnhau eu bod yn gohirio darlledu cyfres newydd o 'Talwrn y Beirdd' o ganlyniad i'r anghydfod.

Roedd nifer o feirdd wedi dweud eu bod yn cefnogi Eos.

Dros y penwythnos, cyhoeddodd yr Archdderwydd T James Jones, Jim Parc Nest, a'i wraig y llenor Manon Rhys, na fyddan nhw'n cyfrannu i Radio Cymru tra bod y ddadl gydag Eos yn parhau.

Yn y cyfarfod ddydd Mawrth, bydd cynrychiolwyr BBC Cymru, ynghyd â staff o adrannau hawliau a chyllid y gorfforaeth, yn cwrdd ag Eos ym Mangor.

Dywed y BBC eu bod yn awyddus i gyrraedd cytundeb cyn gynted â phosib.

Dywedodd Eos eu bod yn gobeithio y byddai'r BBC yn ailystyried eu blaenoriaethau a chynnig mwy o arian am eu cerddoriaeth.