Y Frenhines Elizabeth II wedi 'gofalu am y Gymanwlad'
- Cyhoeddwyd
Pan esgynnodd y Frenhines i'r Orsedd yn 1952, roedd talpiau helaeth o fap y byd yn dal wedi'u lliwio'n goch i gynrychioli sgôp yr Ymerodraeth Brydeinig, er bod India eisoes wedi cael ei hannibyniaeth.
Yn ystod y ddau ddegawd wedi hynny daeth nifer o gyn-drefedigaethau Prydain yn wledydd annibynnol.
Roedd nifer o arweinwyr newydd y Gymanwlad o'r un genhedlaeth â'r Frenhines, ac fe ddaeth i'w hadnabod nhw, a'u problemau, yn dda iawn.
Ei rôl oedd bod yn symbol diduedd o undod, gan gynrychioli'r delfrydau yr oedd y Gymanwlad yn anelu amdanynt.
Yn ôl Syr Shridath "Sonny" Ramphal, Ysgrifennydd Cyffredinol y Gymanwlad o 1975 i 1990: "Fe wnaeth hi gyfleu drwy ei bywyd, ei harddull, ei hymarweddiad a'i pherthnasau, deimlad o ofalu am y Gymanwlad."
'Ffactor sefydlog'
Dywedodd cyn-lywydd Nigeria, Olusegun Obasanjo, yn 2002 bod y Frenhines yn "ffenomen wych ar gyfer y Gymanwlad".
"Mae hi wedi bod yn fodd o sefydlogi ac yn ddynes wych, wych," meddai.
Fe wnaeth y Frenhines ymweld â phob gwlad yn y Gymanwlad o leiaf unwaith.
Roedd hi hefyd yn gwahodd arweinwyr y Gymanwlad i gyfarfodydd byr, anffurfiol gyda hi bob dwy flynedd yn ystod Cyfarfod Penaethiaid Llywodraeth y Gymanwlad.
"Roedd hi'n gweld pob pennaeth llywodraeth am 20 i 30 munud mewn sesiwn breifat," meddai Syr Ramphal.
"Roedd hi wastad yn paratoi'n drylwyr.
"Waeth pa mor weriniaethol neu radical fyddai'r arweinydd, roedd y cyfarfod gyda'r Frenhines yn un pwysig."
Fel pennaeth y Gymanwlad, doedd gan y Frenhines ddim grym, ond roedd ganddi ddylanwad.
Pe bai arweinwyr yn dod ati hi â phroblemau, fe allai weithiau fod o gymorth wrth ddod o hyd i ateb.
'Dylanwad pwerus'
Weithiau rhoddwyd prawf ar allu'r Frenhines i uno pobl, yn fwyaf felly cyn Cyfarfod Penaethiaid Llywodraeth y Gymanwlad ym mhrifddinas Zambia, Lusaka, yn 1979.
Roedd y Prif Weinidog ar y pryd, Margaret Thatcher, wedi mynd benben â mwyafrif arweinwyr y Gymanwlad drwy wrthod cefnogi sancsiynau yn erbyn De Affrica.
Fe wnaeth dyfodol Rhodesia hefyd achosi hollt ymhlith arweinwyr y Gymanwlad ar y pryd.
Roedd lluoedd Prif Weinidog Rhodesia, Ian Smith, wedi bod yn bomio canolfannau'r Patriotic Front yn Lusaka rai dyddiau ynghynt.
Roedd ei weithredoedd wedi ysgogi Robert Muldoon o Seland Newydd ac eraill i annog y Frenhines i beidio â mynychu'r cyfarfod.
Ond fel mae Syr Ramphal yn dwyn i gof, fe wnaeth hi wrthsefyll y pwysau hynny.
"Fe'i gwnaeth yn eglur i bob arlywydd, pob prif weinidog, du a gwyn, hen a newydd, nad oedd y Gymanwlad i dorri a bod yn rhaid i'r Gymanwlad ddod o hyd i gonsensws," meddai.
"Felly roedd hwnna'n ddylanwad pwerus yn cael ei weithredu ar gefn ac ar gryfder ei bri nodedig hi."
Fe wnaeth y Frenhines weithio i gael consensws yn yr hyn y mae nifer yn ei weld fel awr fawr y Gymanwlad.
Dywedodd yr arbenigwr ar wleidyddiaeth ryngwladol, Howard Williams: "Mae'n rhaid derbyn bod y Frenhines Elizabeth wedi chwarae rhan bwysig ar frig y sefydliad gwleidyddol ym Mhrydain ac wedi bod yn ddigon diduedd yn y ffordd mae hi wedi trin gwleidyddiaeth fewnol Prydain, ond hefyd gyda gwleidyddiaeth ryngwladol.
"Mae hynny wedi bod yn help i roi rhyw fath o gyfeiriad, ac arweiniad hefyd."
Llwyddiannau llai amlwg
Er ei hymrwymiad iddo, ymylol oedd y Gymanwlad ar y llwyfan rhyngwladol o'i gymharu â chyrff pwerus fel y Gronfa Ariannol Ryngwladol a Banc y Byd.
Mae ei llwyddiannau wedi bod mewn meysydd llai amlwg fel gweithgareddau diwylliannol, gwyddoniaeth ac addysg.
Mae hefyd wedi darparu fforwm defnyddiol ar gyfer deialog rhwng hemisfferau'r de a'r gogledd.
Yn 2018 cyhoeddwyd y byddai mab y Frenhines, y Tywysog Charles yn ei holynu fel pennaeth y Gymanwlad pan fyddai'n dod yn Frenin.
Bu arweinwyr gwledydd y Gymanwlad yn trafod y mater yng nghastell Windsor.
Dywedodd prif weinidog y DU ar y pryd, Theresa May ei bod hi'n "briodol" mai'r Brenin newydd fyddai'n olynu'r Frenhines oherwydd ei "gefnogaeth falch" o'r Gymanwlad.
Gwledydd yn gadael?
Mae aelodaeth y Gymanwlad yn wirfoddol, ac fe allai rhai gwledydd benderfynu gadael y sefydliad yn llwyr.
Mae gweriniaethwyr yn Awstralia, er enghraifft, yn credu y gallai marwolaeth y Frenhines fod yn gyfle i gynnal refferendwm ar a ddylai pennaeth y Teulu Brenhinol fod yn bennaeth y wladwriaeth yno.
Cafodd rôl Elizabeth II o fewn y Gymanwlad erioed ei gwestiynu.
I'r Frenhines, roedd y Gymanwlad yn deulu, a dywedodd unwaith y gallai ei "bŵer iachusol o oddefgarwch, brawdoliaeth a chariad" ddylanwadu ar faterion rhyngwladol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Medi 2022
- Cyhoeddwyd8 Medi 2022
- Cyhoeddwyd8 Medi 2022