Y Frenhines Elizabeth II yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Yn ystod ei theyrnasiad daeth y Frenhines Elizabeth II ar ymweliadau cyson â Chymru er mwyn cyflawni dyletswyddau cyhoeddus.
Dros gyfnod o dros 70 mlynedd gwelodd newidiadau mawr yng Nghymru.
Un o'r newidiadau mwyaf oedd datganoli, ac ym mis Mai 1999 teithiodd i Fae Caerdydd ar gyfer agoriad swyddogol y Cynulliad Cenedlaethol.
Wrth arwyddo argraffiad arbennig o Ddeddf Llywodraeth Cymru, dywedodd y byddai'r Cynulliad yn pontio i'r dyfodol a'i fod yn arwydd o gychwyn a chyfle.
Ar 1 Mawrth 2006 agorodd adeilad newydd Y Senedd.
Ond roedd yna wrthwynebiad hefyd i'r Frenhiniaeth, gyda sawl protest yn ystod ymweliadau brenhinol.
Urddo i'r Orsedd
Roedd Cymru'r 50au, ar ddechrau teyrnasiad y Frenhines, yn lle gwahanol iawn.
Ym mis Chwefror 1952 bu farw'r Brenin George VI, ac fe gafodd pobl Cymru gyfle cynnar i weld y Frenhines newydd wrth iddi agor Argae Claerwen ym Mhowys ym mis Hydref 1952 er mwyn darparu dŵr i bobl Birmingham.
Ond roedd hi eisoes yn gyfarwydd â Chymru, ei phobl a'i thraddodiadau.
Yn Eisteddfod Genedlaethol Aberpennar, 1946, a hithau'n dywysoges, cafodd ei derbyn yn aelod o Orsedd y Beirdd. Ei henw barddol oedd Elizabeth o Windsor.
Ond dywedodd yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd cyn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy yn 2019 nad oedd y Frenhines yn aelod o'r Orsedd bellach.
Dywedodd fod hynny oherwydd newid i gyfansoddiad y sefydliad yn 2006, oedd yn dweud bod rhaid i bawb sy'n aelod allu siarad Cymraeg.
Yn 1966, 20 mlynedd yn ddiweddarach, dychwelodd i gymoedd y de wedi trychineb Aberfan.
Cydymdeimlodd â theuluoedd y 144 o bobl - y mwyafrif yn blant - a fu farw wedi i domen lo lithro i lawr ochr mynydd gan gladdu'r ysgol gynradd.
Dychwelodd i'r pentref ar dri achlysur wedi hynny, ac yn ystod blwyddyn y Jiwbilî Ddiemwnt yn 2012 agorodd ysgol gynradd newydd yno - Ysgol Gynradd Ynysowen.
Yr arwisgiad
Mae'n debyg mai ei hymweliad mwyaf dadleuol â Chymru oedd y seremoni yng Nghastell Caernarfon ar 1 Gorffennaf 1969 i arwisgo'r Tywysog Charles yn Dywysog Cymru.
Y diwrnod cyn yr arwisgo, ffrwydrodd bom yn Abergele a lladdwyd dau ddyn oedd yn ei gario.
Ar ddiwrnod y seremoni, roedd dros 3,000 o heddlu yng Nghaernarfon oherwydd pryderon am brotestiadau.
Ond cynhaliwyd yr arwisgiad heb broblemau, gyda 4,000 o wahoddedigion yn bresennol yn y castell a miloedd yn rhagor y tu allan.
Gwyliodd miliynau ar draws y byd ar y teledu.
Cafodd y Frenhines groeso mawr yng Nghymru yn ystod dathliadau ei Jiwbilî Arian yn 1977, wrth i gannoedd ymgasglu ar y strydoedd.
Fe ddychwelodd i Gymru yn ystod blwyddyn ei Jiwbilî Aur chwarter canrif yn ddiweddarach, ac yna yn 2012 i nodi ei Jiwbilî Ddiemwnt.
Ymweliadau ag Aberystwyth
Ond doedd y croeso i'r Frenhines yng Nghymru ddim bob amser yn gynnes.
Cafodd ddau brofiad hollol wahanol ar ymweliadau â thref glan môr Aberystwyth.
Yn 1955, bu'n ymweld â bridfa blanhigion yn y brifysgol ac agor adeilad gorffenedig y Llyfrgell Genedlaethol yn swyddogol.
Roedd torfeydd mawr yn aros amdani ar strydoedd y dref.
40 mlynedd yn ddiweddarach, doedd y dorf y tu allan i Neuadd Pantycelyn ddim yno i estyn croeso.
Ymgasglodd tua 200 o fyfyrwyr ar y ffordd tu allan i'r neuadd breswyl.
Wrth i gar y Frenhines basio, fe neidiodd rhai o'r myfyrwyr dros y rhwystrau a rhedeg i'r ffordd.
Am resymau diogelwch, penderfynodd yr heddlu na ddylai'r Frenhines fynd yn ei blaen i agor adran newydd yn y brifysgol yn hwyrach yn y dydd, ac fe gafodd ei hymweliad ei dorri'n fyr.
Dywed mai dyma'r tro cyntaf erioed i hynny ddigwydd ym Mhrydain.
Roedd Aelod Seneddol Ceredigion ar y pryd, Cynog Dafis, yn cofio'r diwrnod.
"Wrth edrych 'nôl, dwi'n tueddu i edmygu pan fydd pobl yn dangos eu safiad yn erbyn ymweliad y Frenhines," meddai.
"Am eu bod nhw'n ei gweld hi'n cynrychioli rhywbeth doedden nhw dim yn ei gymeradwyo, sef brenhiniaeth - system sy'n mynegi braint a rhagorfraint ac etifeddiaeth.
"Bydden nhw'n gweld hynny fel rhan o israddiad Cymru yn ogystal."
Fel trefnydd parti i wrthwynebu'r ymweliad yn Nhafarn y Cŵps, dywedodd Rocet Arwel Jones: "Yr hyn oedd yn dweud fwyaf ynglŷn â'r frenhiniaeth yn 1996 oedd diffyg cefnogaeth pobl Aberystwyth i'r ymweliad.
"Os wnewch chi gymharu'r lluniau o'r ymweliad yn y 50au a'r ymweliad yn y 90au, roedd 'na floeddio ar y strydoedd yn y 50au, ond yn '96 roedden nhw'n denau, denau."
Ond dywedodd y Frenhines un tro: "Dwi ddim yn meddwl allwch chi aros yn Llundain drwy'r amser.
"Mae'n rhaid ymweld ag ardaloedd eraill, i weld be sy'n digwydd, i roi anogaeth.
"Dwi'n meddwl bod y posibiliadau o gyfarfod mwy o bobl yn bwysig iawn."
Dros y blynyddoedd agorodd nifer o atyniadau Cymru.
Y Frenhines oedd yn gyfrifol am agor Canolfan y Mileniwm ym Mae Caerdydd ym mis Tachwedd 2004, er i brotest gan y grŵp Tadau Dros Gyfiawnder fygwth tarfu ar y digwyddiad hwnnw.
Yn 2008 agorodd ganolfan hamdden newydd Abertawe, LC.
Yn 2010, aeth y Frenhines a Dug Caeredin i Gaernarfon - y tro cyntaf iddi ymweld â'r dref mewn 35 mlynedd.
Yn ogystal ag ymweld â'r Eisteddfod Genedlaethol, aeth i'r Sioe Frenhinol yn Llanelwedd, ac i nifer o gemau rygbi a dathliadau Dydd Gŵyl Dewi.
Ar ymweliad ag Aberfan a Glyn Ebwy yn 2012 fe dalodd deyrnged i "ysbryd hynod" y Cymry a'u "cryfder".
"Dwi wedi teithio ar hyd a lled Cymru yn ystod y 60 mlynedd ddiwethaf," meddai.
"Mae'r Tywysog Philip a fi wedi rhannu yn eich llawenydd a'ch tristwch yng Nghymru dros y blynyddoedd, ac mae'r ymdeimlad o falchder ac optimistiaeth heb ei hail wedi cael argraff arnom.
"Mae ysbryd arbennig y Cymry i'w weld yma yn y cymoedd heddiw."
Ym mis Hydref 2021, ar ei hymweliad olaf â Chymru, fe agorodd chweched sesiwn y Senedd yn swyddogol mewn seremoni fer ym Mae Caerdydd.
Wrth gloi ei haraith yn y siambr, dywedodd y geiriau canlynol yn Gymraeg: "Diolch o galon."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Medi 2022
- Cyhoeddwyd8 Medi 2022
- Cyhoeddwyd8 Medi 2022