Carchar anferth newydd i Gymru?

  • Cyhoeddwyd
Carchar y Parc
Disgrifiad o’r llun,

Bydd un o'r unedau newydd ar safle Carchar y Parc ger Pen-y-bont ar Ogwr

Mae Ysgrifennydd Cyfiawnder llywodraeth y DU, Chris Grayling, wedi cyhoeddi newidiadau i garchardai yng Nghymru a Lloegr.

Bydd saith o garchardai yn Lloegr - sy'n dal cyfanswm o 2,600 o garcharorion - yn cau yn llwyr, gyda dau arall yn cau yn rhannol.

Fe fydd gwaith yn dechrau i godi un carchar anferth newydd i gartrefu dros 2,000 o garcharorion.

Ychwanegodd Mr Grayling y gallai'r carchar newydd gael ei leoli naill ai yn Llundain, gogledd-orllewin Lloegr neu yng Ngogledd Cymru.

Yn ogystal, datgelodd gynlluniau ar gyfer pedwar carchar bach newydd, ac fe fydd un o'r rheini yn cael ei leoli ar safle Carchar y Parc ger Pen-y-bont ar Ogwr.

Arbedion

Y saith carchar fydd yn cau yw:

  • Bullwood Hall;

  • Caergaint;

  • Caerloyw;

  • Kingston;

  • Shepton Mallet;

  • Amwythig;

  • Camphill ar Ynys Wyth.

Mae nifer o garcharorion o Gymru yn y carchardai yma, yn enwedig yng Nghaerloyw ac Amwythig.

Dywedodd Mr Grayling mai nod y newid oedd arbed £63 miliwn y flwyddyn o'r gyllideb ar gyfer rhedeg carchardai.

"Fel rhan o'n strategaeth i foderneiddio'r stad ac i leihau costau, rwyf wedi gofyn i swyddogion ystyried yr opsiynau i godi carchar newydd i'n galluogi ni i gyflymu'r broses o gau carchardai aneconomaidd mewn mannau eraill," meddai.

"Bydd yn ystyried dichonolrwydd safleoedd yn y gogledd-orllewin (Lloegr), Gogledd Cymru ac yn Llundain yn unol â'r galw am leoedd yn y rhanbarthau yma, a byddaf yn rhoi mwy o fanylion i'r Tŷ wrth i'r gwaith yma fynd yn ei flaen."

Ymateb

Daeth croeso i'r cyhoeddiad gan Ysgrifennydd Cymru, David Jones.

"Rwyf wedi bod yn gefnogwr o garchar newydd i Ogledd Cymru ers tro, ac rwyf wedi cyfarfod yn gyson gyda'r Ysgrifennydd Carchardai ar arweinwyr cynghorau'r gogledd i drafod hyn," meddai.

"Byddaf yn parhau i ddadlau'r achos o blaid hyn gyda'r Ysgrifennydd Cyfiawnder.

"Gallai carchar yng ngogledd Cymru greu cyfleoedd economaidd a sicrhau swyddi newydd. Rwyf hefyd yn gwybod pa mor bwysig fyddai cael carchar yng ngogledd Cymru i deuluoedd carcharorion ac ymgynghorwyr proffesiynol y carcharorion.

"Rwyf hefyd yn falch o weld y bydd carchar bach newydd yn cael ei godi yng Ngharchar y Parc yn ne Cymru."

Dywedodd Aled Roberts, Aelod Cynulliad y Democratiaid Rhyddfrydol dros Ogledd Cymru:

"Mae llawer o garcharorion o ogledd Cymru yn cael eu cadw ymhell o'r rhanbarth gan arwain at straen emosiynol ac ariannol i'w teuluoedd.

"Mae trafferthion hefyd o safbwynt siaradwyr Cymraeg.

"Mae modd taclo problemau gorboblogi yng ngharchardai gogledd-orllewin Lloegr drwy osod carchar mawr newydd yng ngogledd Cymru, ac mae cau carchar Amwythig yn gwneud y gogledd yn safle mwy deniadol."

'Dim croeso'

Roedd croeso Plaid Cymru i'r syniad yn fwy gofalus, a dywedodd eu llefarydd ar gyfiawnder, Elfyn Llwyd AS:

"Mae'n fater o synnwyr cyffredin ystyried gogledd Cymru fel safle posib i garchar newydd.

"Mae'n hanfodol cadw'r cysylltiad rhwng carcharorion a'u cymunedau er mwyn hwyluso'u hailsefydlu, ac mae'r cysylltiad yna'n cael ei dorri pan mae troseddwyr yn cael eu cadw cannoedd o filltiroedd o'u cartrefi.

"Ond ni fyddai carchar gyda 2,000 o bobl yn ateb gofynion y gymuned leol, ac fe fyddai carchar llai gyda thua 650-750 o bobl yn fwy priodol.

"Pe bai llywodraeth y DU yn dewis Gogledd Cymru fel lleoliad, ni fyddai croeso i adnodd newydd o'r fath oni bai bod lleihad sylweddol yn nifer y carcharorion."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol