S4C yn agor Canolfan Gyfryngau
- Cyhoeddwyd
Mae S4C yn agor ei Chanolfan Gyfryngau newydd ar ei safle ym Mharc Tŷ Glas Caerdydd yn swyddogol ddydd Gwener.
Mae'r ganolfan yn lleoliad i gwmnïau o'r diwydiannau creadigol i weithio gyda'i gilydd ar y safle.
Dywedodd Prif Weithredwr S4C, Ian Jones ei fod yn gobeithio y bydd y fenter yn dod â manteision i S4C ac i'r sector creadigol yng Nghymru.
Y cwmnïau a sefydliadau cyntaf i symud i'r ganolfan yw Cyfle, Asiantaeth ffilm Cymru, Gorilla, Mr Producer, Media 4 a Rights.TV
Mae swyddfeydd y cwmnïau allanol Dolphin a Buffalo Sound Recorder eisoes wedi eu lleoli yno.
'Rhannu cryfderau'
Dywedodd Prif Weithredwr S4C, Ian Jones: "Mae gan S4C safle gwych yma yn Llanisien yn y brifddinas, ac mae agoriad y Ganolfan Gyfryngau newydd yma'n fodd o rannu cryfderau gyda chwmnïau ar draws y diwydiannau creadigol.
"Dwi'n mawr obeithio y bydd y ganolfan yn nodweddiadol o'r bwrlwm creadigol sydd wastad yn bodoli o fewn y sector darlledu ac yn y cyfryngau yn gyffredinol.
"I S4C, mae gwneud yn fawr o'r adnoddau sydd gyda ni yn bwysig iawn ac wrth agor ein drysau a chroesawu cwmnïau allanol, ry'n ni'n creu cyfle economaidd i hybu'n gwasanaethau yn y pen draw."
Yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mro Morgannwg fis Awst y llynedd, dywedodd Mr Jones ei fod yn awyddus i ddatganoli rhannau o S4C, a hynny i dri safle - un o bosib yn y gorllewin neu'r canolbarth, yn ogystal ag un yn y de ac un yn y gogledd.
Ym mis Hydref, cyhoeddodd y sianel y byddan nhw'n cynnal astudiaeth i'r posibilrwydd hwn.
Dywedodd Mr Jones ei fod am sicrhau fod buddiannau economaidd gwaith S4C yn cael eu rhannu ar draws Cymru lle bo hynny'n bosib.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2012