Eos ac S4C yn dod i gytundeb i chwarae cerddoriaeth
- Cyhoeddwyd
Mae S4C wedi cyhoeddi bod y sianel wedi dod i gytundeb ag Eos - y mudiad sy'n cynrychioli cyfansoddwyr cerddoriaeth Gymraeg - ynglŷn â breindaliadau.
Eos sydd bellach yn cynrychioli cannoedd o gyfansoddwyr Cymraeg adawodd PRS am nad oedden nhw'n fodlon gyda'r arian oedden nhw'n ei dderbyn.
O ganlyniad i'r cytundeb fe fydd S4C yn gallu defnyddio'r holl waith o Ionawr 1 2013.
Does 'na ddim cytundeb hyd yma rhwng Eos a'r BBC ynglyn â breindaliadau a allai arwain at Radio Cymru yn methu chwarae dros 30,000 o ganeuon o ddydd Mawrth ymlaen.
Mae Eos ac S4C wedi bod yn trafod telerau'r drwydded newydd ers mis Hydref, ar ôl i 331 o gerddorion, awduron a chyhoeddwyr Cymraeg drosglwyddo eu hawliau darlledu o PRS i Eos, yr asiantaeth hawliau darlledu newydd.
Mewn datganiad ddydd Sadwrn dywedodd bod y drwydded newydd yn adlewyrchu dymuniad S4C ac Eos i gerddoriaeth Gymraeg barhau i fod yn rhan o wasanaethau S4C.
'Yn falch'
Mewn ymateb i'r newyddion dywedodd Gwilym Morus, Cadeirydd Eos, eu bod yn falch iawn o fedru dod i gytundeb gydag S4C.
"Mae hyn yn golygu bydd cerddoriaeth aelodau Eos yn parhau i gael ei defnyddio gan ein sianel deledu genedlaethol.
"Rydym yn diolch i benaethiaid S4C am gynnal y trafodaethau hyn mewn ysbryd o gydweithio er mwyn cyrraedd cytundeb."
Dywedodd Cyfarwyddwr Polisi Corfforaethol a Masnachol S4C, Elin Morris, eu bod hwythau yn falch hefyd.
"Drwy'r cytundeb yma, rydym wedi gallu dangos unwaith eto ein hymrwymiad i gerddorion Cymraeg, ac i'n cynulleidfaoedd sydd am wrando ar eu cynnyrch.
"Drwy'r cytundeb hwn, rydym yn llwyddo i osgoi toriad yn y defnydd o waith artistiaid Eos, ac yn gallu mwynhau'r manteision o gael trwydded flanced am holl weithiau aelodau Eos.
"Ond yn bennaf oll, fe fyddwn yn gallu parhau i gynnwys gwaith amryw o gerddorion Cymraeg ar wasanaethau S4C i gwrdd â dyheadau'n cynulleidfaoedd."
'Cytundeb buan?'
Cyn y Nadolig dywedodd BBC Cymru bod Eos wedi gwrthod cytundeb hael i ddatrys yr anghydfod.
Roedd Eos yn feirniadol o'r cynnig ond yn dweud y byddai trafodaethau yn parhau.
Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru: "Rydym yn croesawu'r ffaith bod Eos wedi dod i gytundeb gydag S4C.
"Mae'n newyddion da ac yn dangos bod cytundeb bosib.
"Rydym mewn trafodaethau gydag Eos ac yn gobeithio y bydd modd cael canlyniad llwyddiannus yn fuan."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2012