Fferyllwyr i ymweld â chartrefi pobl ym Merthyr a'r Rhondda

  • Cyhoeddwyd
Fferyllydd â phresgrisiwnFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r fenter wedi cael ei groesawi gan y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol yng Nghymru

Cleifion ym Merthyr a Rhondda Cynon Tad fydd y cyntaf yng Nghymru i dderbyn ymweliadau cartref gan fferyllwyr.

Mae'r cynllun gan Fwrdd Iechyd Cwm Taf yn ceisio lleihau gwastraff moddion a sicrhau bod cyffuriau presgripsiwn yn cael eu cymryd yn y modd mwyaf effeithiol.

Mae'r fenter yn rhan o wasanaeth Adolygu'r Defnydd o Feddyginiaethau sydd yn cael ei gynnig gan fferyllfeydd cymunedol ers 2005.

Nawr bydd fferyllwyr yn gallu cynnig eu gwasanaeth i gleifion nad ydynt yn gallu gadael eu cartrefi.

'Arbenigwyr'

Mae GIG Cymru yn amcangyfrif bod moddion anaddas neu ddianghenraid yn costio £50m ac yn arwain at hyd at 200 o farwolaethau allai gael eu hatal.

Dywedodd Emma Hinks, hwylusydd fferyllfeydd cymunedol Bwrdd Iechyd Cwm Taf: "Rydych yn gallu holi eich fferyllydd unrhyw bryd ond bydd adolygiad yn sicrhau eich bod yn gallu canolbwyntio ar eich moddion.

"Mae adolygiadau yn bwysig i gleifion am eu bod yn gwella effeithiolrwydd eich moddion a chanfod ffyrdd haws i'w cymryd.

"Mae'r adolygiadau hefyd yn gymorth i'r gwasanaeth iechyd am eu bod yn helpu atal gwastraff presgripsiynau gan sicrhau bod y feddyginiaeth yn cael ei chymryd yn gywir."

Mae'r syniad wedi cael ei groesawi gan y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol yng Nghymru.

Dywedodd cyfarwyddwr y gymdeithas yng Nghymru, Paul Gimson: "Mae fferyllwyr yn arbenigwyr o ran meddyginiaeth ac rydym yn credu y dylai pob claf sy'n derbyn meddyginiaeth gael at yr arbenigedd gorau posib sy'n cael ei gynnig gan y fferyllydd.

"Wrth siarad wyneb yn wyneb â chleifion, mae'r fferyllydd yn gallu sicrhau bod y claf yn cymryd y feddyginiaeth yn y modd priodol."

Ychwanegodd y dylai gwaith y fferyllydd ategu gwaith gweithwyr iechyd eraill yn hytrach na dod yn ei le.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol