Mark Bridger yn gwadu llofruddio April Jones
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 47 oed wedi gwadu llofruddio a chipio merch bump oed ym Machynlleth fis Hydref y llynedd.
Ond mae bargyfreithiwr Mark Bridger yn dweud bod disgwyl iddo gyfadde' mai fo oedd yn gyfrifol am farwolaeth April Jones.
Fe ymddangosodd y diffynnydd, o bentref Ceinws ger Machynlleth, yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Llun.
Wrth ddweud fod ei gleient yn gwadu llofruddiaeth, ychwanegodd Brendan Kelly ar ran yr amddiffyniad mai Mark Bridger oedd fwy na thebyg yn gyfrifol am farwolaeth April Jones.
Dywedodd y barnwr ei fod yn rhoi caniatâd arbennig i'r wasg i gyhoeddi'r hyn a ddywedodd Mr Kelly.
Ond ychwanegodd na ddylai'r wasg gyhoeddi dim o'r dystiolaeth arall oedd yn cael ei roi gerbron y llys ddydd Llun.
Mae Mr Bridger yn gwadu llofruddiaeth a hefyd cyhuddiadau o gipio plentyn ac o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder drwy gelu corff.
Roedd aelodau o deulu April Jones yn bresennol yn y llys ar gyfer y gwrandawiad byr ddydd Llun.
Fe welwyd April am y tro olaf yn chwarae y tu allan i'w thŷ ar ystâd Bryn-y-gog ar Hydref 1.
Cafodd Mr Bridger ei arestio'r diwrnod canlynol.
Wedi diflaniad April bu cannoedd o wirfoddolwyr, aelodau'r heddlu, timau achub mynydd a gwylwyr y glannau yn cynorthwyo yn yr ymdrech i ddod o hyd iddi.