Cwmni siopau HMV i benodi gweinyddwyr

  • Cyhoeddwyd
Siop HMVFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Roedd gwerthiant Nadolig yn siomedig gan arwain at broblemau

Mae cwmni siopau HMV wedi cadarnhau eu bod yn bwriadu mynd i ddwylo gweinyddwyr.

Mae dyfodol y cwmni wedi bod yn ansicr ers tro.

Yn ôl gwefan y cwmni, mae 'na saith o siopau yng Nghymru.

Mae 4,350 o swyddi yn y fantol ar draws y cwmni.

Bydd y busnes sy'n gwerthu cerddoriaeth ar gryno ddisgiau a fideos, ymysg nwyddau eraill, yn parhau i weithredu tra bydd y gweinyddwyr, Deloitte, yn chwilio am brynwr newydd.

Mae 'na 239 o ganghennau ym Mhrydain ac Iwerddon.

Cystadleuaeth

Cychwynnodd y cwmni yn 1921 ac maen nhw wedi wynebu cystadleuaeth yn sgil prynu nwyddau ar y we.

Fe ddaw'r cyhoeddiad wedi i gwmniau Jessops a Comet gau dros y misoedd diwethaf.

Mewn datganiad, dywedodd HMV bod y bwrdd yn gresynu gorfod gwneud y cyhoeddiad.

"Dydan ni ddim wedi llwyddo i gyrraedd sefyllfa lle mae modd parhau i weithredu y tu allan i warchodaeth methdalu," meddai llefarydd.

"O ganlyniad mae'r bwrdd yn galw'r gweinyddwyr."

Mae'r cwmni wedi bod mewn trafferthion ariannol am dros flwyddyn ac ar Ragfyr 13, 2012 roedden nhw'n wynebu achos posib o dorri cytundeb benthyciad banc gan arwain at ostyngiad mewn cyfranddaliadau.

Agorwyd y siop gyntaf yn Oxford Street yn Llundain.

Oherwydd problemau yn gynharach fe wnaeth y cwmni werthu rhannau o'r busnes, gan gynnwys siopau llyfrau Waterstones.