Cynghorwyr am fwrw ymlaen â chynlluniau ailddatblygu

  • Cyhoeddwyd
Canolfan Heulfan Y Rhyl
Disgrifiad o’r llun,

Gallai'r Heulfan yn Y Rhyl gau fel rhan o gynlluniau i adfywio promenâd Y Rhyl

Mae cynghorwyr yn Sir Ddinbych wedi pleidleisio o blaid parhau i edrych ar gynlluniau i ailddatblygu promenâd Y Rhyl.

Y bwriad yw buddsoddi £18 miliwn mewn canolfan ddŵr newydd yn lle'r Heulfan, yn ogystal â chyflwyno gwelliannau i Theatr y Pafiliwn, y Tŵr Awyr a Phentref y Plant.

Maent hefyd wedi rhoi sêl bendith i welliannau i'r Tŵr Awyr yn syth, i sicrhau ei fod yn cwrdd â rheolau diogelwch, ond fydd hyn ddim yn cynnwys ailagor yr atyniad ar hyn o bryd.

Yn eu cyfarfod ddydd Mawrth, fe gefnogodd y cyngor hefyd argymhelliad oedd yn galw am gynllun busnes newydd ar gyfer y ganolfan ddŵr er mwyn asesu faint fyddai'n ei gostio i adeiladu pwll 50 metr fel rhan o'r datblygiad.

Mae disgwyl i'r adroddiadau a gomisiynwyd heddiw, ar gost o £30,000, fod yn barod erbyn tua mis Ebrill.

Trawsnewid

Petai'r cynlluniau yn cael sêl bendith terfynol, byddai'n arwain at uwchraddio cyfleusterau hamdden a thwristiaeth Y Rhyl yn sylweddol, creu swyddi newydd a hybu rhagor o fuddsoddiad preifat yn y dre'.

Wedi i'r Cabinet gymeradwyo'r argymhellion, bydd y gwaith nawr yn dechrau ar ail ran y rhaglen, sy'n cynnwys creu briff dylunio ac adolygiad manwl yn arwain at gyflwyno cais cynllunio.

Dywedodd arweinydd y cyngor, Hugh Evans: "Mae llawer iawn o waith wedi'i wneud yn paratoi'r adroddiad hwn ac mae'n cynnig cynllun gweithredu realistig i drawsnewid darpariaeth hamdden y dre'."

Ychwanegodd pennaeth Cyfathrebu, Marchnata a Hamdden y cyngor, Jamie Groves: "Hyd yn oed yng nghanol cyfnod economaidd anodd, mae'r adroddiad yma'n dangos fod Sir Ddinbych yn benderfynol o fuddsoddi mewn gwasanaethau hamdden, a'n bod yn rhoi hamdden, iechyd a lles ein pobl wrth galon agenda adfywio'r cyngor.

"Rydym yn nesáu at yr amser pan fydd yn rhaid derbyn fod yr Heulfan yn cyrraedd diwedd ei thaith fuddiol fel canolfan ddŵr a byddwn yn cydweithio gyda chwmni Clwyd Leisure i ddatblygu darpariaeth arall ar gyfer yr arfordir."

Meddai Tom Booty, rheolwr Y Rhyl yn Symud Ymlaen: "Mae 'na lawer iawn o waith yn cael ei wneud i drawsnewid y dre' ac rydym yn ymwybodol bod angen darparu cyfleusterau cyfoes ac effeithiol, fydd yn gwella bywyd y trigolion ac yn denu ymwelwyr hefyd."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol