Hunanladdiad yn cynyddu yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Merch ddigalonFfynhonnell y llun, SPL
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gyfradd hunanladdiad wedi codi 30% dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Mae cyfradd hunanladdiad yng Nghymru'n uwch nag unrhyw ardal yn Lloegr, yn ôl ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Roedd cyfraddau hunanladdiad yng Nghymru a Lloegr yn weddol debyg rhwng 1981 a 1990 ond mae'r gyfradd wedi bod yn uwch yng Nghymru er 1991.

Yn ôl adroddiad y swyddfa, bu farw 28% yn fwy oherwydd hunanladdiad yng Nghymru na Lloegr yn 2011.

Bu farw 270 o ddynion a 71 o fenywod dros 15 oed oherwydd hunanladdiad yn 2011.

Mae'r gyfradd wedi codi 30% dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

2004

Yn 2011 bu farw 13.9 ymhob 100,000 o'r boblogaeth oherwydd hunanladdiad tra oedd 10.7 yn 2009.

Hon yw'r gyfradd uchaf yng Nghymru er 2004.

Dynion, yn enwedig rhai canol oed, sydd fwyaf tebygol o ladd eu hunain - yn 2011 roedd 47 achos o hunanladdiad ymhlith dynion rhwng 40 a 44 oed tra oedd 26 achos yn y flwyddyn flaenorol.

Dywedodd llefarydd ar ran elusen y Samariaid: "Mae'r ystadegau'n cadarnhau ein hymchwil sy'n awgrymu bod dynion canol oed, sy'n ddiwaith neu'n byw mewn cymunedau difreintiedig, yn fwy tebygol o ladd eu hunain nag unrhyw grŵp arall yn ein cymdeithas."

Un ddamcaniaeth yw bod y grŵp hwn yn diodde' mwy o ganlyniad i'r wasgfa ariannol ond, yn gyffredinol, mae dynion yn llai tebygol na menywod o chwilio am gyngor a chymorth os ydyn nhw'n gofidio neu'n diodde' o iselder.

Mae'r ystadegau o ran menwyod yn anoddach eu dehongli oherwydd bod nifer yr achosion yn gymharol fach.

Crwneriaid

Ond mae'r ffigyrau'n awgrymu cynnydd yn nifer achosion hunanladdiadau ymhlith menywod hŷn rhwng 80 a 84 oed.

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi awgrymu y gallai'r newidiadau i'r ffordd mae crwneriaid yn cofnodi achosion hunanladdiad fod yn rhannol gyfrifol am y cynnydd.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Er bod mwy o bobl wedi lladd eu hunain rhwng 2010 a 2011, rhaid cydnabod bod y ffigurau'n amrywio bob blwyddyn.

"Cynyddodd nifer y rhai laddodd eu hunain yn Lloegr yn 2011.

"Dylid cymharu Cymru ag ardal â'r un boblogaeth fel Gogledd-Ddwyrain a Gogledd-Orllewin Lloegr lle mae'r cyfraddau'n debyg."

Byddai Llywodraeth Cymru, meddai, yn parhau i hyrwyddo mesurau i atal achosion o hunanladdiad, gan gynnwys gweithredu eu strategaeth iechyd meddwl diweddar.

"Fe fydd hon yn cynnig mwy o gefnogaeth i unigolion bregus," meddai llefarydd.

Dylai rhai sydd angen help a chyngor, meddai, ffonio Llinell Gyngor a Gwrando'r Gymuned ar 0800 132 737 neu decstio "help" i 81066.

Rhif y Samariaid yw 08457 90 90 90.