Budd-dal treth y cyngor: O blaid £22m
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo'n unfrydol £22m i lenwi bwlch budd-daliadau treth y cyngor er iddyn nhw ddweud yn wreiddiol na fyddai'r arian ar gael.
Dywedodd y gwrthbleidiau eu bod yn croesawu'r "tro pedol" ond yn beirniadu sut yr oedd gweinidogion wedi delio â'r mater.
Heb yr arian ychwanegol fe fyddai'r rhai oedd yn derbyn y budd-dal ar gyfartaledd yn colli £67 yn y flwyddyn ariannol nesa'.
Yn y Senedd yng Nghaerdydd dywedodd yr AC Ceidwadol Janet Finch-Saunders y byddai'r "tro pedol" yn rhyddhad i 330,000 o deuluoedd yng Nghymru.
'Yn warthus'
"Ond mae'n warthus fod cymaint o amser cyn y penderfyniad hwn," meddai.
Dywedodd AC Plaid Cymru Simon Thomas y byddai rhaid i'r llywodraeth "ddysgu gwersi pwysig ynglŷn â sut i ddeddfu a sut i glustnodi arian."
Mae AC y Democratiaid Rhyddfrydol Peter Black wedi dweud bod "y sefyllfa anniben" yn golygu bod cynghorau â naw ddiwrnod cyn y ddyddiad cau cyfreithiol.
Wfftiodd y Gweinidog Llywodraeth Leol Carl Sargeant honiadau fod "tro pedol" wedi bod.
'Safiad'
"Mae llywodraeth Carwyn Jones yn gwneud safiad ar ran pobl Cymru," meddai.
Roedd llywodraeth y DU wedi trosglwyddo cyfrifoldeb am fudd-dal treth cyngor i Fae Caerdydd ond wedi rhoi 90% o'r cyllid angenrheidiol.
Yr un oedd y sefyllfa ar draws Prydain ond bod Senedd yr Alban a nifer o gynghorau Lloegr eisoes wedi cyflwyno rhaglenni i dalu'r gwahaniaeth.
Roedd Mr Sargeant wedi dweud y byddai'r arian yn dod o gronfa wrth gefn y llywodraeth ynghyd â chyllidebau adrannol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2012