Gorchymyn i ohirio llawdriniaethau
- Cyhoeddwyd
Gallai cleifion o Gymru sy'n teithio i Loegr am driniaeth arbenigol orfod aros yn hirach am lawdriniaethau fel rhan o ymgyrch i arbed arian.
Daeth i sylw BBC Cymru fod ysbytai'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn Lloegr wedi cael gorchymyn i ohirio rhai llawdriniaethau - gan gynnwys llawdriniaeth y galon - am gyfnod rhwng nawr a diwedd y flwyddyn ariannol ym mis Ebrill.
Os fydd cleifion yn cael eu trin yn rhy sydyn, yna mae penaethiaid y GIG yng Nghymru yn bygwth peidio â thalu am y llawdriniaethau.
Daw'r gorchymyn mewn llythyr at benaethiaid Ymddiriedolaethau Iechyd Lloegr gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (PGIAC) - y corff sy'n gyfrifol am gynllunio a chomisiynu gwasanaethau iechyd arbenigol ar ran y saith bwrdd iechyd.
Targedau
Mae'r BBC wedi gweld copi o'r llythyr sy'n gorchymyn ysbytai Lloegr i beidio â thrin cleifion o Gymru mor gyflym ag y maen nhw ar hyn o bryd tan ddiwedd Mawrth, ac ond i ymgymryd â thriniaethau trefnedig os oes peryg y gallai'r claf aros am fwy na 26 wythnos.
O dan dargedau Llywodraeth Cymru, dim ond 5% o gleifion ddylai fod ar restr aros am fwy na 26 wythnos, ond fel arfer mae cleifion o Gymru sy'n cael eu trin yn Lloegr yn llai na hynny.
Targed y GIG yn Lloegr yw 18 wythnos.
Yn y llythyr, mae PGIAC yn dweud eu bod yn gweithredu'r rheolau er mwyn aros o fewn "yr adnoddau sydd ar gael".
'O fewn adnoddau'
Aiff y llythyr ymlaen i ddweud: "Er mwyn sicrhau chwarae teg i gleifion o Gymru, rydym yn gofyn i bob cyflenwr i weithredu yn unol ag amseroedd amser Cymru ac o fewn yr adnoddau sydd ar gael.
"Dylid ond cyflawni llawdriniaethau trefnedig rhwng Ionawr 17 a Mawrth 31 2013 os oes rhaid gwneud hynny er mwyn osgoi mynd dros y nod o 26 wythnos."
Dywed y llythyr hefyd os yw'r achosion yn cael eu hystyried fel rhai brys yn glinigol, yna dylai ysbytai Lloegr gael caniatâd o flaen llaw gan y PGIAC cyn bwrw 'mlaen gyda'r driniaeth.
Mae'r llythyr yn gorffen trwy ddweud: "Mae hwn yn gynllun sylweddol i GIG Cymru, ac felly fe fydd methu â chydymffurfio gyda'r gorchymyn yn arwain at beidio â thalu am y driniaeth."
'Annerbyniol'
Mae meddyg o ogledd-orllewin Lloegr oedd ddim am gael ei enwi wedi dweud wrth BBC Cymru y gallai'r penderfyniad gynyddu'r risg i gleifion.
"Fe fyddaf yn cael fy atal rhag rhoi llawdriniaeth i glaf y byddwn fel arall wedi gwneud.
"Mae rhai cleifion yn cael mwy o drafferthion ac weithiau'n marw ar restr aros, felly mae mwy o risg bob tro os ydyn nhw aros am hirach cyn cael llawdriniaeth."
Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar iechyd, Darren Millar AC, bod y sefyllfa yn annerbyniol, a galwodd ar y Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths i ymyrryd.
"Mae'r gorchymyn yma yn gwbl annerbyniol ac yn annheg iawn," meddai.
"Mae unrhyw orchymyn sy'n rhoi lles ac iechyd cleifion o Gymru o'r neilltu yn anghyfiawn, ac fe ddylai stopio yn syth.
"Does dim rheswm pam y dylai cleifion o Gymru sy'n cael eu cyfeirio at ysbyty dros y ffin orfod aros mewn poen ar fympwy y pwyllgor yma, ac rwy'n annog y Gweinidog i weithredu a gwrthod y gorchymyn yma."
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Elin Jones AC: "Mae hwn yn ddatblygiad pryderus iawn.
"Mae'n dangos sut y mae methiant Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â chyllido'r GIG yn effeithio ar gleifion.
"Yn fwyaf pryderus, mae'n dangos bod canslo triniaeth drefnedig yn cael ei weld fel opsiwn hawdd er mwyn gwneud arbedion gan Lywodraeth Cymru.
"Mae dirfawr angen cynlluniau newydd i'r GIG yng Nghymru."
Dim newid
Dywedodd Llywodraeth Cymru nad yw eu safbwynt wedi newid ac y dylid trin pob claf o fewn yr amseroedd aros penodedig.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Nid yw disgwyliadau Llywodraeth Cymru wedi newid - sef bod pob claf yn cael eu gweld o fewn yr amser a bennwyd gennym, ac yn nhrefn pwysigrwydd clinigol.
"Mae'r Gweinidog yn gofyn i bob Bwrdd Iechyd a'r PGIAC i weithredu ar y sail yna."
Dywedodd llefarydd ar ran Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru: "Er mwyn sicrhau tegwch i gleifion o Gymru, mae camau wedi eu cymryd i unioni'r gofal trefnedig o wasanaethau arbenigol, sy'n cael eu darparu yn Lloegr, gyda safonau amseroedd aros Cymru.
"Mae darparwyr y gofal yma hefyd wedi cael gwybod os oes unrhyw ansicrwydd ynglŷn â phwysigrwydd y driniaeth bod angen cysylltu gyda PGIAC a chael caniatâd o flaen llaw,
"Mae hyn yn effeithio ar bob apwyntiad ar gyfer gwasanaethau arbenigol sy'n cael eu darparu gan sefydliadau yn Lloegr."
Dywedodd Kirsty Williams, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru: "Rwy'n poeni'n fawr bod cynlluniau i arbed arian fel hyn yn digwydd ar draws y gwasanaeth iechyd, a hynny ar draul cleifion.
"Nid yw gohirio gwasanaethau a thriniaethau tan y flwyddyn ariannol newydd yn ffordd briodol o redeg y gwasanaeth iechyd".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2012