Maes Awyr: 'Angen ymchwiliad'

  • Cyhoeddwyd
Cardiff airportFfynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,

Maes Awyr Caerdydd

Mae angen i'r Comisiwn Ewropeaidd ymchwilio cais Llywodraeth Cymru i brynu Maes Awyr Caerdydd yn ôl yr Aelod Seneddol Ewropeaidd Ceidwadol, Ashley Fox.

Mae Mr Fox yn dweud byddai gwladoli'r maes awyr yn torri rheolai'r Undeb Ewropeaidd, a hefyd yn niweidiol i ddatblygiad meysydd awyr cyfagos, gan gynnwys maes awyr Bryste.

Dywedodd Mr Fox, sy'n cynrychioli de-orllewin Lloegr a Gibraltar: "Mae'r penderfyniad yma nid yn unig yn wastraff o arian y trethdalwr gan Lywodraeth Lafur Cymru mewn cyfnod o grebachu ariannol, ond fe allai'r pryniant hefyd roi mantais annheg i Faes Awyr Caerdydd dros gwmnïau rhanbarthol eraill sydd ddim yn derbyn arian gan y llywodraeth fel maes awyr Bryste."

Mae Bryste yn rhan o etholaeth Mr Fox.

Ymateb

Wrth ymateb i sylwadau Mr Fox, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn hyderus bod y broses yr ydym yn rhan ohoni yn cydymffurfio'n llawn gyda rheolau cymorth y wladwriaeth yr Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd llefarydd trafnidiaeth Plaid Cymru, Rhodri Glyn Thomas AC: "Nid yw Plaid Cymru yn gwrthwynebu'r egwyddor o brynu'r maes awyr, ond rydym am i unrhyw bryniant fod yn destun ystyriaeth gwerth am arian, ac yna i graffu'n ofalus gynlluniau Llywodraeth Cymru am y maes awyr.

"Nid yw'r ymyrraeth yma gan y Ceidwadwyr yn help ac mae'n ymddangos ei fod yn achos o ymyrraeth ar ran Maes Awyr Bryste.

"Dylai penderfyniadau am Faes Awyr Caerdydd gael eu gwneud yn ddemocrataidd yn ein Cynulliad Cenedlaethol, nid ym Mryste."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol