Pennaeth Maes Awyr Caerdydd wedi gadael

  • Cyhoeddwyd
Maes Awyr Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer y teithwyr yn gostwng

Mae Rheolwr Gyfarwyddwr Maes Awyr Caerdydd wedi gadael ei swydd.

Mewn datganiad fe wnaeth y maes awyr gadarnhau ymadawiad Patrick Duffy ddydd Mercher.

Daw ei ymadawiad wedi beirniadaeth ddiweddar am berfformiad y maes awyr gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.

Ers 2007 mae'r maes awyr wedi gweld gostyngiad o bron i 800,000 yn nifer y teithwyr sy'n ei ddefnyddio.

Does 'na ddim mwy o fanylion am ymadawiad Mr Duffy ar hyn o bryd.

Ond mae'r maes awyr wedi cyhoeddi y bydd Debra Barber yn ei olynnu.

Yn ôl y maes awyr fe fydd hi'n "rhan allweddol o'r tîm rheoli gyda chyfrifoldeb am waith gweithredol y maes awyr a'r gwaith o'i ddatblygu".

'Dyfodol hirdymor'

Dydd Mawrth fe wnaeth BBC Cymru ddatgelu bod Mr Jones wedi dweud bod Llywodraeth Cymru yn edrych ar y posibilrwydd o brynu siâr ym Maes Awyr Caerdydd, petai'r perchnogion o Sbaen yn gwerthu.

Dywedodd y perchnogion wrth BBC Cymru eu bod "yn agored i dderbyn unrhyw gynnig" ond "mae popeth yn ddibynnol ar bris".

"Mae angen addewid gan y perchnogion, rydan ni wedi gwneud ein haddewid, wedi rhoi ein harian ar y bwrdd, fel arall dydi dyfodol hirdymor Caerdydd ddim yn dda," meddai Mr Jones ar raglen Week In Week Out nos Fawrth.

Ym mis Ebrill dywedodd Mr Jones bod angen rhedeg Maes Awyr Caerdydd "yn iawn neu ei werthu".

Dywedodd na fyddai am groesawu ymwelwyr i Gymru drwy'r maes awyr oherwydd yr argraff yr y safle'n ei chreu.

Gwnaeth y sylwadau wedi iddi ddod i'r amlwg bod nifer y rhai sy'n defnyddio'r maes awyr yn lleihau.

Roedd nifer y teithwyr ddefnyddiodd y maes awyr yn 2011 13% i ychydig dros 1.2 miliwn.

Dros yr un cyfnod roedd cynnydd o 1% yn nifer y teithwyr aeth drwy Faes Awyr Bryste - i fyny i fwy na 5.7 miliwn.

Mewn datganiad dywedodd Ms Barber ei bod yn "edrych ymlaen at ymuno â'r Maes Awyr mewn "cyfnod hanesyddol".

Mae hi'n ymuno a'r maes awyr wedi gyrfa lwyddiannus yn y Llu Awyr ers 1984.

"Wedi ymweld â Chymru nifer o weithiau yn ystod fy ngyrfa - gan gynnwys nifer o ymweliadau a chanolfannau'r Llu Awyr yn Y Fali a Sain Tathan - dwi'n edrych ymlaen at archwilio mwy o gefn gwlad de Cymru a bod yn rhan allweddol o'r gymuned yng Nghaerdydd," meddai.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol