Llywodraeth i brynu siâr o Faes Awyr Caerdydd?
- Cyhoeddwyd
Dywedodd Prif Weinidog Cymru bod Llywodraeth Cymru yn edrych ar y posibilrwydd o brynu siâr ym Maes Awyr Caerdydd, petai'r perchnogion o Sbaen yn gwerthu.
Mae'r perchnogion wedi dweud wrth BBC Cymru eu bod "yn agored i dderbyn unrhyw gynnig" ond "mae popeth yn ddibynnol ar bris".
Dywedodd Carwyn Jones wrth raglen Week In Week Out BBC Cymru ei fod o yn bersonol wedi bod yn rhan o drafodaethau gyda phrynwyr posib newydd sy'n barod iawn i greu partneriaeth breifat-gyhoeddus gyda'r llywodraeth.
Fe fyddai cymryd rhywfaint o berchnogaeth yn caniatáu'r llywodraeth i fuddsoddi a chefnogi gwasanaethau newydd o Gaerdydd meddai.
Ond mae BBC Cymru wedi clywed fod y perchnogion, Abertis, wedi rhoi gwerth o £150m ar y maes awyr pan brynwyd y safle yn 2005, a bod y pris a ofynnir wedi cynyddu i £200m y llynedd - er nad yw'r cwmni wedi cadarnhau hyn.
Mae hyn er bod nifer y teithwyr yn gostwng ac elw'n lleihau. Roedd un arbenigwr wedi rhoi gwerth o £30m ar y maes awyr yn ddiweddar.
Wrth ymateb i hyn, dywedodd Carwyn Jones y dylai Abertis un ai wneud gwelliannau i'r maes awyr, neu ei werthu am "bris rhesymol".
Mae'r safle wedi colli bron i filiwn o deithwyr yn y pum mlynedd diwethaf ac mae Mr Jones wedi beirniadu'r perchnogion am ohirio gwaith adnewyddu £26 miliwn, sy'n cynnwys £5 miliwn gan Lywodraeth Cymru, ar gyfer y derfynfa.
Mae'r maes awyr yn dweud bod ganddyn nhw raglen fuddsoddi barhaol a'u bod yn falch o ddenu cwmnïau newydd, gan gynnwys cwmni Vueling yn ddiweddar.
'Enw da'
Fe wnaeth Mr Jones fygwth dwyn pwysau ar y cwmni drwy Lywodraeth Catalan oni bai bod y sefyllfa yn newid, er ei fod wedi dweud y byddai'n cydweithio gyda'r cwmni os byddan nhw'n "dangos uchelgais" ar gyfer Cymru.
"Mae angen addewid gan y perchnogion, rydan ni wedi gwneud ein haddewid, wedi rhoi ein harian ar y bwrdd, fel arall dydi dyfodol hirdymor Caerdydd ddim yn dda," meddai Mr Jones.
Pan ofynnwyd iddo pam y dylai'r cwmni werthu maes awyr proffidiol ei ateb oedd "enw da".
"Maen nhw'n edrych ar brynu meysydd awyr eraill yn y byd, ydyn nhw wir eisiau'r cyhoeddusrwydd yma.
"O'n safbwynt ni, unai fe ddylen nhw wella neu fe fyddwn ni'n parhau i ddweud nad ydi pethau yn dda yno."
Gwrthododd Rheolwr Gyfarwyddwr Abertis, Carlo del Rio, feirniadaeth Mr Jones.
"Mae meysydd awyr o hyd yn fater dadleuol.
"Mae'n amhosib plesio pawb. Rydym yn barod i dderbyn y math yma o feirniadaeth, dydi o ddim bwys.
"Ein bwriad ar hyn o bryd yw peidio gwerthu, ond yn y farchnad fyd-eang, mae popeth yn ddibynnol ar bris."
Gwasanaeth
Mae'r rhaglen wedi siarad gyda nifer o bobl sy'n anfodlon gyda'r ddarpariaeth yng Nghaerdydd.
Fe brynodd nifer o bobl gartrefi dramor yn y gobaith o fanteisio ar wasanaeth awyr rhad o Gaerdydd.
Ond dros y blynyddoedd mae cwmnïau fel Ryanair a bmiBaby wedi dod a'u gwasanaeth o Gaerdydd i ben.
Fe ddywedodd Jon Wall o gwmni Wales Golf Vacations, ei bod yn dymuno denu pobl i chwarae golff yng Nghymru drwy Gaerdydd.
"Mae 'na gyrsiau golff godidog yma.
"Ond rydym yn ei chael yn anodd eu cael yma.
"Mae Iwerddon a'r Alban yn ffynnu.
"Fe fydd ymwelwyr yn mynd i Iwerddon, cael eu casglu o'r maes awyr ac yn eu gwestai o fewn 20 munud.
"Dydi'r maes awyr ddim yn gwneud unrhyw ffafrau â ni."
Yn y rhaglen nos Fawrth fe fydd Simon Calder, sy'n ysgrifennu ar deithio, yn darganfod sut brofiad yw bod yn deithiwr ym maes awyr Caerdydd.
Mae'r rhaglen hefyd yn edrych pam bod saith o bob 10 o bobl Cymru yn hedfan o feysydd awyr yn Lloegr.
"Os fydd pethau yn parhau fel yma, fe fydd yn gywilydd cenedlaethol," meddai Mr Calder.
3 miliwn o deithwyr
Mae Mike Snelgrove o Brifysgol Fetropolitan Caerdydd wedi dweud bod angen cymorth ar y maes awyr i oroesi.
"Mae'n mynd i fod yn benderfyniad gwleidyddol a fyddwn ni fel cenedl eisiau maes awyr ac yn barod i gynnig cymorth i Gaerdydd."
Mewn datganiad dywedodd Maes Awyr Caerdydd bod ganddyn nhw fodd o ddelio â hyd at 3 miliwn o deithwyr y flwyddyn.
"Ar hyn o bryd, ein blaenoriaeth yw cynyddu traffig a gwasanaethau er mwyn gwneud defnydd gwell o'r gofod sydd gennym ni."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd1 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2011