Caniatáu gwaith adnewyddu adeiladau plasty Insole Court

  • Cyhoeddwyd
Insole court
Disgrifiad o’r llun,

Y cefnogwyr yn amgylchynu’r adeilad ym mis Medi 2012 i godi ymwybyddiaeth

Mae cefnogwyr i adnewyddu plasty Fictorianaidd Gradd II yng Nghaerdydd yn dweud ei bod yn falch o ennill caniatâd cynllunio.

Mae gan Ymddiriedolaeth Insole Court yn ardal Llandaf o'r ddinas £761,724 i adnewyddu'r stablau ar gyfer y gymuned a digwyddiadau addysgol.

Mae'r caniatâd cynllunio hefyd yn cynnwys addasu'r adeiladau allanol i fod yn ganolfan ymwelwyr ac ystafelloedd te yn ogystal â chynorthwyo i adfer y gerddi.

Bwriad yr ymddiriedolaeth ydi codi £5 miliwn i adfer yr adeilad.

Cafodd y tŷ ei godi yn 1856 gan James Harvey Insole, perchennog pwll Cymer yn Y Rhondda.

Mae Cyngor Sir a Dinas Caerdydd yn gweithio gyda'r ymddiriedolaeth i'w droi'n adeilad cymunedol.

Cafodd cynlluniau ar gyfer y gwaith eu harddangos ers mis Mawrth 2012.

Swyddi ac adnoddau cymunedol

"Fe fydd y prosiect yn adfer plasty Fictorianaidd yn Llandaf i'w hysblander ac yn creu hwb cymunedol ac ystafell de yn y stablau," meddai'r ymddiriedolaeth.

"Bydd yn darparu teithiau treftadaeth yn y tŷ gyda chymorth gwirfoddolwyr.

"Fe fydd 'na gyfle ar gyfer swyddi a mentrau cymdeithasol gydag adnoddau ar gyfer y gymuned.

"Bydd y rhain yn cynnwys canolfan ar gyfer pobl hyn, canolfan i rieni a'u plant, gweithdai celf a neuadd gymunedol."

Dywedodd cadeirydd yr ymddiriedolaeth, Syr Norman Lloyd-Edwards, bod y penseiri, ymgynghorwyr, Cyngor Caerdydd a'r ymddiriedolaeth wedi cyd-weithio ar y cynlluniau.

"Rydym yn falch o fod wedi cael caniatâd cynllunio," meddai.

"Rydym nawr yn chwilio i gryfhau'r bwrdd o ymddiriedolwyr er mwyn symud y prosiect ymlaen ac yn chwilio am ymddiriedolwyr gydag arbenigedd mewn strategaeth ariannol, newid rheolaeth a chodi arian."

Dywedodd Neil Richardson, cyfarwyddwr prosiect Insole Court, bod cael y caniatâd cynllunio yn symud yr ymddiriedolaeth gam yn nes i gymryd rheolaeth o'r cwrt ar ran y gymuned.

"Mae 'na lot o waith i'w wneud o hyd, yn enwedig o ran codi arian, ond gobeithio y gallwn gychwyn y gwaith ar y stablau yn yr hydref," ychwanegodd.

Fe wnaeth James Harvey Insole ehangu'r plasty dros y blynyddoedd gan gynnwys twr sy'n seiliedig ar un yng Nghastell Caerdydd.