Mwy o arian ar gyfer morgeisi
- Cyhoeddwyd
Mae Cymdeithas Adeiladu mwyaf Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau i gynyddu benthyca ar gyfer morgeisi o 50% dros y pum mlynedd nesaf.
Mae ffigyrau diweddaraf y Principality yn dangos cynnydd mawr yn y benthyciadau ar gyfer morgeisi y llynedd yn enwedig i brynwyr am y tro cyntaf yng Nghymru.
Mae'r ffigyrau hefyd yn dangos bod y cwmni wedi gwneud elw o £25 miliwn yn 2012 - cynnydd bychan ar y flwyddyn flaenorol.
Dywedodd eu prif weithredwr Graeme Yorston fod hyder yn dychwelyd i'r farchnad, a dyweodd y cwmni fod gwerth eu holl forgeisi wedi mynd dros £1 biliwn am y tro cyntaf yn eu hanes.
Fe greodd y cwmni bron 100 o swyddi yn ystod y flwyddyn hefyd.
Er hynny roedd y cwmni yn fwy gofalus wrth fenthyca i fusnesau wrth iddo gynyddu eu coffrau er mwyn gwrthsefyll unrhyw golledion o ganlyniadau o amodau heriol yr economi.
'Sefydlogrwydd'
Dywedodd Mr Yorston: "Mae pobl yn dechrau credu bod ganddyn nhw gyfle i ddychwelyd i'r farchnad dai gan fod cyfraddau llog am forgais wedi gostwng yn sylweddol.
"Gyda'r lefel o sefydlogrwydd yr ydym yn credu fydd yn dychwelyd i economi'r DU, rydym yn teimlo bod cyfle i fusnes yng Nghymru i wneud mwy yng Nghymru ac yn Lloegr.
"Twf yw targed y cwmni dros y pum mlynedd nesaf."
Y Principality yw benthycwr mwyaf Cymru gyda 53 o ganghennau, a thua 5% o'r farchnad morgeisi a 12% o'r farchnad gynilion.
Dim ond 40% o forgeisi'r cwmni sydd yng Nghymru gyda'r gweddill yn cael eu gwerthu yn Lloegr.
Rhagolygon
Wrth drafod y rhagolygon am gyfraddau llog i'r rhai sy'n cynilo, dywedodd Mr Yorston: "Rwy'n gobeithio ein bod wedi cyrraedd gwaelod y cylch erbyn hyn.
"Pan ydych chi ar y gwaelod yna rwy'n gobeithio y byddwn yn gweld y cyfraddau cynilion yn codi yn ystod 2013, yn enwedig yn nhymor yr ISAs."
Ar fater prisiau tai, roedd Mr Yorston yn credu y byddan nhw'n sefydlog dros y flwyddyn i ddod yn dilyn cwymp bychan y llynedd, ac nid yw'n gweld cyfraddau llog i fenthycwyr yn codi dros y 18 mis neu ddwy flynedd nesaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2012