Llosgydd: Ffafrio pa gwmni?
- Cyhoeddwyd
Bydd trigolion Caerdydd a Chasnewydd yn cael gwybod ddydd Gwener pa gwmni sy'n cael ei ffafrio i adeiladu llosgydd newydd.
Mae pum awdurdod lleol y de ddwyrain, sef Bro Morgannwg, Caerffili, Caerdydd, Casnewydd a Sir Fynwy wedi ffurfio'r Prosiect Gwyrdd er mwyn delio â gwastraff sy'n anodd ei ailgylchu.
Dim ond dau gwmni sydd ar ôl yn y ras - sef Viridor a Veolia Environmental Services. Mae'r ddau gwmni eisoes yn gweithredu safleoedd llosgi gwastraff a defnyddio ynni ar gyfer y Grid Cenedlaethol neu ar gyfer diwydiant yn Lloegr.
Cafodd cais cynllunio Veolia ger safle gwaith dur Llanwern ar gyrion Casnewydd ei wrthod y llynedd, ac mae ail gais wedi ei gyflwyno.
Ond mae Viridor wrthi'n adeiladu eu llosgydd nhw ym Mae Caerdydd ar hyn o bryd. Fe gafodd y cwmni ganiatâd cynllunio yn 2010, a thrwydded i redeg y llosgydd gan Asiantaeth yr Amgylchedd ym mis Tachwedd yr un flwyddyn.
Mae ymgyrchwyr yn gwrthwynebu'r datblygiadau yn y ddwy ddinas.
Mae grŵp Caerdydd yn erbyn y Llosgydd yn cwrdd bob wythnos, ac ar fin rhoi cais am orchymyn llys yn yr Uchel Lys i atal gwaith adeiladu Viridor, gan geisio perswadio'r cyngor bod Viridor yn torri rhai amodau'u caniatâd cynllunio ers mis Mawrth y llynedd.
'Peryglus'
Cadeirydd y grŵp yng Nghaerdydd ydy Robert Griffiths: " 'Ry'n ni'n ymgyrchu yn erbyn yr holl broses achos mae'n wastraff arian, ddim yn effeithiol, yn beryglus ar sawl lefel, ac mae 'na ffyrdd llawer gwell o drin ein gwastraff na'i losgi. "
Doedd dim sylwadau gan gwmni Viridor tan ar ôl y cyhoeddiad, ond mewn datganiad i BBC Cymru ddydd Iau dywedodd y cwmni:
"Yng Ngorffennaf 2012 cafodd Viridor 'wahoddiad i atal' gwaith adeiladu ar safle Parc Trident ar ôl, mae'n ymddangos, dechrau'r gwaith heb gwrdd ag amodau yn y cais cynllunio.
"Ond yn ddiweddar pan wnaeth pwyllgor cynllunio Cyngor Caerdydd ystyried camau gorfodi, fe benderfynwyd gohirio'r penderfyniad tan y daw mwy o wybodaeth i law."
Mae'r cyfarfod cynllunio nesaf fis nesaf.
Yng Nghasnewydd, mae Veolia yn apelio yn erbyn penderfyniad y cyngor, ac mae disgwyl ymchwiliad cyhoeddus fis Gorffennaf. Yn ôl un o'r mudiad i atal llosgydd, Robert Hepworth, roedd tri rheswm dros wrthod y cais cynllunio.
Effaith ar fywyd gwyllt, a bygythiad bioamrywiaeth ger safleoedd o ddiddordeb gwyddonol yn ogystal â Lefelau Gwent ag aber yr Hafren:
Na fyddai llosgydd yn gydnaws â datblygiad tai San Modwen gerllaw:
Effaith trafnidiaeth ar draffordd yr M4 a ffordd y dociau ger Casnewydd.
Does dim awgrym pa gwmni sy'n debygol o gael eu dewis fel ymgeisydd, cyn bydd cynghorwyr yr awdurdodau lleol yn rhoi sêl eu bendith, ond bydd sawl cwestiwn petai cwmni sydd wedi dechrau adeiladu, a chyda'r caniatâd perthnasol mewn lle, yn cael ei wrthod.
710,000 tunnell
Cefndir hyn ydy'r awydd i gau tomenni tirlenwi a lleihau gwastraff sy'n anodd ei ailgylchu. Yn 2011-12 fe aeth dros 710,000 tunnell o sbwriel bagiau du i gael eu claddu gan gynghorau Cymru. Cafodd 492,000 tunnell eu hailgylchu. Felly er bod cyfradd ailgylchu'r cynghorau yn cynyddu bob blwyddyn, mae rhan o broblem gwastraff yn aros.
Gyda chynghorau Cymru yn ailgylchu 53% o wastraff ar gyfartaledd bellach, y targed ydy 70% erbyn 2025. Sy'n gadael traean o wastraff i ddelio ag o.
Dyna pam fod Llywodraeth Cymru yn gefnogol i'r math newydd o losgyddion - llosgi gwastraff a defnyddio'r ynni dros ben at ddibenion trydan. Safleoedd ynni-o-wastraff ydy'r enw crand ar y llosgyddion newydd.
Yn nogfen Tuag At Ddyfodol Diwastraff mae anogaeth i losgyddion ar gytundebau maith o 25 mlynedd:
"Yn nhermau prosiectau yn derbyn cefnogaeth ariannol Llywodraeth Cymru, y disgwyl wrth ymdrin â gwastraff trefol yw cwrdd â thargedau ailgylchu Tuag At Ddyfodol Diwastraff, ymdrin â'r bwyd gwastraff trwy ddefnyddio Treulio Anaerobig a defnyddio ynni o'r gwastraff mewn canolfan Troi Gwastraff yn Ynni".
Argymhellion
Un elfen ddiddorol arall fel cefndir i'r ddadl am werth llosgi gwastraff neu ddim, ydy argymhellion adroddiad pwyllgor deisebau'r Cynulliad fis Rhagfyr y llynedd.
Ymysg y 4 argymhelliad mae'r canlynol:
"Mae'r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn chwilio am gyfleoedd i hybu technolegau newydd a allai, dros gyfnod, gynnig dulliau dichonadwy o drin gwastraff heb orfod ei losgi".
"Mae'r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn ystyried pa mor ymarferol fyddai cyfrannu at astudiaeth gynhwysfawr, ar y cyd â'r rhanddeiliaid priodol, o archwilio unrhyw beryglon posibl i iechyd sydd ynghlwm wrth ryddhau gronynnau bach iawn o losgyddion".
Mae'r argymhellion hynny yn tanlinellu bod amheuaeth gan rai o hyd am effeithiau iechyd llosgyddion er gwaethaf adroddiad yr Yr Asiantaeth Diogelu Iechyd yn 2009, a honiad cwmni Viridor ar eu gwefan:
"Fe fyddai'r allyriadau o'r safle yn cael eu rheoleiddio yn gaeth gan Asiantaeth yr Amgylchedd ac mae'r holl broses o drin y gwastraff wedi ei chynllunio i gwrdd ag anghenion nid yn unig safonau aer yn lleol ond hefyd cyfarwyddeb llosgi gwastraff Ewropeaidd".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2011