Cymru 22 - 30 Iwerddon
- Cyhoeddwyd
Os buodd erioed gêm le roedd yr ystrydeb 'gêm o ddau hanner' yn wir , hon oedd hi.
Ar ddiwedd yr hanner cyntaf, roedd yn anodd credu mai Cymru oedd yn amddiffyn Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni wrth i'r Gwyddelod reoli'r hanner cyntaf.
Daeth y cais cyntaf i Iwerddon wedi dewiniaeth O'Driscoll, gyda phas wych a dwyllodd Alex Cuthbert gan adael i Simon Zebo dirio yn y gornel wedi 11 munud. Llwyddodd Sexton gyda'r trosiad.
Y Gwyddelod gafodd 72% o'r meddiant yn yr ugain munud agoriadol, ac felly pan aeth cic gosb Sexton rhwng y pyst i'w rhoi 10-0 ar y blaen, roedd hynny'n adlewyrchiad teg o'r chwarae.
Daeth eu hail gais wedi 23 munud wedi i gic Dan Biggar gael ei tharo i lawr gan Rory Best gan arwain at gais Cian Healy.
Roedd Biggar - 23 oed, oedd yn cymryd lle Rhys Priestland ac yn ennill ei 12fed cap i Gymru mewn gyrfa a ddechreuodd yn 2008 yn erbyn Canada - ar fai y tro hwn wrth gymryd llawer gormod o amser wrth gicio.
Fe fydd Shaun Edwards yn gandryll bod Cymru wedi ildio dau gais yn y fath fodd.
Llwyddodd Sexton drachefn gyda'r trosiad a chyda chic gosb arall.
Wedi hanner awr Cymru 0 - 20 Iwerddon a mudandod y Cymry yn y dorf o 73, 230 yn dweud y cwbl.
Roedd Cymru yn dyheu am bwyntiau, ac fe ddaethant o'r diwedd wedi 33 munud gyda chic gosb Halfpenny.
Ar ôl i Aaron Shingler gael ei gosbi am beidio â rhyddhau'r dyn â'r bêl ar lawr eiliadau cyn yr egwyl, parhaodd Sexton ei record 100% wrth gicio at y pyst yn yr hanner cyntaf.
Ar yr egwyl Cymru 3 - 23 Iwerddon.
Beth bynnag a ddywedwyd gan Rob Howley ar yr egwyl, roedd hi'n ymddangos yn dda i ddim wedi 43 munud wrth weld amddiffyn y Cymry ar chwâl gyda'r ddraenen gyson honno yn ystlys y Cymry, O'Driscoll, yn manteisio ar fwlch a grëwyd gan wrth-rycio Coombs i gael cais, a Sexton yn trosi.
O'r diwedd wedi 48 munud daeth rhywbeth i godi calonnau'r Cymry, gyda daliad da Coombs yn creu'r sylfaen i Cuthbert dorri trwy amddiffyn y Gwyddelod i dirio, a Halfpenny yn trosi.
Cafodd Best gerdyn melyn wedi 57 munud a manteisiodd y Cymry o fewn munud gyda Halfpenny yn cael cais yn y gornel, wedi symudiad cyffrous a ddechreuodd gyda llinell 13-dyn.
Ar ôl i Conor Murray weld y cerdyn melyn wedi 70 munud, daeth cyfnod o bwyso mawr gan y Cymry, gyda Faletau fodfeddi yn fyr o sgorio cais, a Warburton, Lloyd Williams, a George North yn hyrddio at y llinell gais, ond amddiffyn y Gwyddelod yn rhyfeddol o gadarn.
Ond fe ildiodd yr 14 dyn i'r pwyso wedi 75 munud gyda'r eilydd Craig Mitchell yn hyrddio drosodd wedi sgarmes a Halfpenny yn trosi.
Ar ddiwedd y gêm y cwestiwn mawr oedd, pam yn y byd gymerodd hi hanner awr i'r Cymry ddihuno?
Y freuddwyd o ddal gafael ar y Gamp Lawn wedi diflannu ar y cymal cyntaf, a'r hirlwm wedi'r colledion yn Awstralia ac yng nghyfres yr hydref yn parhau.
CYMRU v.IWERDDON: Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd; Dydd Sadwrn, Chwefror 2 am 1:30pm:
CYMRU: Leigh Halfpenny (Gleision); Alex Cuthbert (Gleision), Jonathan Davies (Scarlets), Jamie Roberts (Gleision), George North (Scarlets); Dan Biggar (Gweilch), Mike Phillips (Bayonne); Gethin Jenkins (Toulon), Matthew Rees (Scarlets), Adam Jones (Gweilch), Andrew Coombs (Dreigiau), Ian Evans (Gweilch), Aaron Shingler (Scarlets), Sam Warburton (Gleision, capten), Toby Faletau (Dreigiau).
EILYDDION: Ken Owens (Scarlets), Paul James (Caerfaddon), Craig Mitchell (Caerwysg), Olly Kohn (Harlequins), Justin Tipuric (Gweilch), Lloyd Williams (Gleision), James Hook (Perpignan), Scott Williams (Scarlets).
IWERDDON: R Kearney; C Gilroy, B O'Driscoll, G D'Arcy, S Zebo; J Sexton, C Murray; C Healy, R Best, M Ross; M McCarthy, D Ryan; P O'Mahony, S O'Brien, J Heaslip (capten).
EILYDDION: S Cronin, D Kilcoyne, D Fitzpatrick, C Henry, D O'Callaghan, E Reddan, R O'Gara, K Earls.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2013