£2m i atgyweirio tŷ Fictoraidd Cwrt Insole
- Cyhoeddwyd
Mae gwirfoddolwyr sy'n helpu adfer adeilad rhestredig Gradd II yn dathlu ar ôl ennill grant o £2m i'w atgyweirio.
Bydd y grant oddi wrth Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn cefnogi gwaith caled gwirfoddolwyr lleol sydd wedi ymgyrchu i achub Cwrt Insole, yn Llandaf, Caerdydd.
Cafodd y tŷ Fictoraidd - sydd wedi ei amgylchynu â gerddi rhestredig Gradd ll - ei adeiladu ar gyfer teulu glofaol cyfoethog ym 1856 ac mae'n symbol o orffennol diwydiannol cyfoethog de Cymru.
Bydd Ymddiriedolaeth Cwrt Insole, gaiff ei arwain gan wirfoddolwyr, a Chyngor Caerdydd yn defnyddio'r arian i adfer yr adeiladau a'r gerddi, a thrawsnewid bloc o stablau sydd 'mewn perygl' i fod yn ganolfan i'r gymuned leol, digwyddiadau, busnesau cymunedol a mentrau cymdeithasol.
'Anhygoel o galed'
Dywedodd y Capten Syr Norman Lloyd-Edwards, cadeirydd Ymddiriedolaeth Cwrt Insole: "Mae'r Ymddiriedolaeth wedi gweithio'n anhygoel o galed i sicrhau'r arian mewn cyfnod mor fyr ac rydyn ni i gyd wrth ein bodd.
"Gall y gwaith adnewyddu ac adeiladu gychwyn ac fe allwn ni gychwyn ar gyfnod newydd a chyffrous yn stori Cwrt Insole, sydd, o'r diwedd wedi cael ei sicrhau i, ac ar ran y gymuned leol.
Cafodd yr Ymddiriedolaeth ei llunio gan aelodau o'r gymuned leol yn 2011. Fel rhan o'r prosiect, bydd rheolaeth y tŷ yn cael ei drosglwyddo o Gyngor Caerdydd i'r Ymddiriedolaeth ar ran y gymuned.
Saith o swyddi
Bydd saith o swyddi hefyd yn cael eu creu yn y Cwrt, yn cynnwys swydd reoli llawn amser a swyddi rhan amser i helpu i reoli gwirfoddolwyr, mentrau cymdeithasol, marchnata a digwyddiadau, dysgu a gweithgareddau allan yn y gymuned a gweinyddu'r safle.
Bydd staff yn cael eu cefnogi gan dros 100 o wirfoddolwyr Cwrt Insole, fydd yn chwarae rôl weithredol mewn gwireddu'r prosiect.
Bydd tua hanner y gwirfoddolwyr hyn yn cymryd rhan mewn hyfforddi i ddatblygu sgiliau newydd mewn meysydd fel garddwriaeth, rheoli archifau, ymchwil ac arwain ymwelwyr. Bydd pobl ifanc hefyd yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn gwirfoddoli yn y safle trwy gefnogaeth oddi wrth Gyngor Caerdydd.
Dywedodd Dr. Manon Williams, cadeirydd Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru: "Mae Ymddiriedolaeth Cwrt Insole wedi dangos sut y gall cymunedau chwarae rôl hanfodol mewn amddiffyn eu treftadaeth leol, gan sicrhau bod y storïau a'r adeiladau o'n gorffennol yn cael eu hachub a'u rhannu.
"Yn ogystal ag atgyweirio a dod o hyd i ddefnyddiau newydd i'r adeilad hanesyddol hwn, bydd y prosiect yn darparu cyfleoedd hyfforddiant ar gyfer y gwirfoddolwyr fel eu bod yn cael y sgiliau sydd eu hangen i ofalu am y tŷ a'r gerddi, yn dod â'r gymuned yn rhan o'r prosiect a denu miloedd o ymwelwyr ychwanegol bob blwyddyn ac wrth wneud hynny sicrhau dyfodol Cwrt Insole."
Bydd y grant yn ariannu gwaith atgyweirio brys ar du fewn y plasty, yn agor ystafelloedd sydd wedi bod ynghau am dros 30 mlynedd. Bydd hefyd yn cael ei ddefnyddio i wella arwyddion ac arddangosfeydd, ac yn cefnogi rhaglen dysgu a digwyddiadau newydd gan obeithio denu 30,000 o ymwelwyr ychwanegol bob blwyddyn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2012