Trafod dyfodol iaith

  • Cyhoeddwyd
Carwyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Carwyn Jones: Cyfarfod â'r mudiad iaith yn 'adeiladol'

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi cyhoeddi cynlluniau i drafod dyfodol yr iaith Gymraeg.

Y bwriad, meddai, yw "dod â phob rhan o gymdeithas yng Nghymru at ei gilydd" i drafod dyfodol y Gymraeg.

Ddydd Mercher roedd yn trafod â Chymdeithas yr Iaith Gymraeg yr heriau'n wynebu'r iaith yn dilyn canlyniadau Cyfrifiad 2011 a ddangosodd fod nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru yn gostwng.

Enw'r syniad newydd fydd "Y Gynhadledd Fawr".

'Heriau aruthrol'

Dywedodd Cymdeithas yr iaith fod y cyfarfod yn "adeiladol".

Yn ôl y mudiad iaith, mae Mr Jones wedi dweud y byddai'n ystyried deddfu ynghylch rhoi dyletswydd ar awdurdodau i ystyried effaith ceisiadau cynllunio ar y Gymraeg.

Ar ôl y cyfarfod, dywedodd Mr Jones: "Mae'r Gymraeg yn wynebu heriau aruthrol yn y blynyddoedd i ddod. Maen nhw'n heriau mawr i ni fel llywodraeth, ond allwn ni ddim gwneud y gwaith ar ein pennau ein hunain.

"Mae Llywodraeth Cymru yn falch o'r hyn rydyn ni wedi'i gyflawni dros yr iaith drwy warchod ei statws drwy'r ddeddfwriaeth sydd wedi'i sefydlu erbyn hyn.

"Ond rydyn ni'n cydnabod - ac mae canlyniadau'r Cyfrifiad yn dangos hyn - fod yna heriau sylweddol i'w goresgyn o hyd.

"Un o'r amcanion y mae'n rhaid inni weithio i'w gyflawni yw gwneud y Gymraeg yn iaith 'fyw', yn enwedig ymhlith pobl ifanc y tu hwnt i gatiau'r ysgol."

Dywedodd fod "cryn dir cyffredin" rhyngddo ac aelodau'r mudiad iaith yn y cyfarfod.

"Drwy'r 'Gynhadledd Fawr' dwi am sicrhau fod pawb yn cael cyfle i ddweud eu dweud.

"Dwi o'r farn bod y rhan fwyaf o bobl Cymru am weld ein hiaith yn tyfu ac yn ennill tir yn y blynyddoedd i ddod. Dyna pam mae'n hanfodol bod pawb yn gwneud ei ran nawr."

Polisi

Dywedodd Cymdeithas yr Iaith eu bod yn croesawu'r cyhoeddiad ond bod rhaid i'r syniad gael ei ystyried ochr yn ochr â materion polisi.

Ychwanegodd y mudiad iaith fod Mr Jones wedi cytuno i ymateb yn fanwl i'w cynllun gweithredu dros iaith, gwaith a chymuned, Maniffesto Byw ar gyfer Cymunedau Byw erbyn Mehefin 6.

Mae'r cynllun yn cyfeirio at addysg, y sicrwydd bod pob disgybl yn gallu siarad Cymraeg erbyn gadael yr ysgol, rhoi grantiau i bobl sy'n prynu tai am y tro cyntaf ac i awdurdodau lleol ystyried y Gymraeg pan maen nhw'n arolygu eu cynlluniau ar gyfer cynllunio.

Dywedodd y mudiad iaith fod Mr Jones wedi cytuno bod y materion hyn yn allweddol.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol