Asbestos: Gwraig yn marw o ganser

  • Cyhoeddwyd
Ffibrau asbestos
Disgrifiad o’r llun,

Mae ffibrau asbestos yn gysylltiedig â'r canser mesothelioma

Bu farw gwraig o ganser oherwydd ei bod bob dydd yn golchi dillad gwaith ei gŵr oedd yn gweithio ym Mhwerdy Aberddawan ym Mro Morgannwg.

Clywodd cwest Valerie Ward, 78 oed, o' Barri wedi bod yn golchi dillad gwaith ei gŵr Eric am dros 20 mlynedd.

Roedd hi wedi anadlu ffibrau asbestos wrth ysgwyd y dillad gwaith a bu farw 10 wythnos ar ôl i'w gŵr gael gwybod ei fod yn diodde' o mesothelioma.

Dywedodd ei merch Avril: "Mae'n debyg fod mam wedi marw 10 mlynedd cyn ei hamser.

"Fe wnaeth fy nhad weithio yn y pwerdy am 20 mlynedd.

'Ddim yn gwybod'

"Roedd Mam wastad yn golchi ei ddillad ar ôl iddo ddod adref.

"Doedd hi ddim yn gwybod am beryglon y llwch a'r ffibrau ar y dillad.

"Fe gollodd e lot o ffrindiau a chydweithwyr oherwydd yr afiechyd.

"Bach iawn oedd pobl yn gwybod am y cyflwr ar y pryd a bach iawn gafodd ei wneud i amddiffyn y gweithwyr."

Cofnodwyd rheithfarn o farwolaeth oherwydd clefyd diwydiannol.

Mae mesothelioma yn ganser sy'n effeithio ar leinin yr ystymog,.

Mae'r gŵr 85 oed yn parhau i dderbyn triniaeth oherwydd yr asbestos yn ei ysgyfaint.

Cafodd y teulu iawndal o £8,775 gafodd ei roi i hosbis elusen Marie Curie.