Cyfraith asbestos yn 'anymarferol', medd yswirwyr
- Cyhoeddwyd
Dywed cwmnïau yswiriant bod deddfwriaeth i ddigolledu'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru am y gost o drin clefydau asbestos yn "anymarferol a dianghenraid".
Maen nhw'n dweud y bydd y gost o atafaelu'r arian yn fwy na'r budd i'r pwrs cyhoeddus.
Byddai argymhellion sy'n mynd drwy'r Cynulliad ar hyn o bryd yn gorfodi busnesau i dalu costau meddygol aelod o staff a dioddefodd ar ôl dod i gysylltiad ag asbestos.
Ond dywed y cwmnïau yswiriant nad oes gan y Cynulliad y grym i newid y gyfraith.
Polisïau presennol
Mae'r argymhellion yn rhan o fesur preifat gan yr Aelod Cynulliad Llafur, Mick Antoniw.
Mae AC Pontypridd am weld cwmnïau yn digolledu'r Gwasanaeth Iechyd am drin gweithwyr aeth yn sâl ar ôl gweithio gydag asbestos.
Yn eu tystiolaeth i ACau, dywed Cymdeithas Yswirwyr Prydain (ABI) y byddai'r mesur yn golygu mwy o gostau i geisiadau yn ymwneud ag asbestos.
Ni fyddai yswirwyr wedi ystyried y gost ddegawdau yn ôl, gan eu gorfodi i gael yr arian gan ddeiliaid polisïau presennol.
Er eu bod yn cydnabod pwerau'r Cynulliad dros bolisi iechyd, dywedodd y gymdeithas: "Nid ydym yn credu bod y fath addasu o bolisïau yswiriant yn dod o fewn ei rymoedd."
Baich ariannol
Ychwanegodd yr ABI bod pecyn o argymhellion i gynorthwyo dioddefwyr o glefydau sy'n gysylltiedig ag asbestos yn cael ei gyflwyno ar draws y DU erbyn 2014 beth bynnag.
Mae'n dweud hefyd nad yw'r mesur yn rhoi esiamplau penodol o sut y byddai'r arian i gynorthwyo dioddefwyr yn cael ei godi.
Roedd asbestos yn cael ei ddefnyddio'n helaeth yn y diwydiant adeiladu o'r 1950 tan y 1980au.
Yn flaenorol mae Mr Antoniw wedi dweud bod y gost o drin dioddefwyr yn faich ariannol anferth ar y Gwasanaeth Iechyd.
Credir bod mesothelioma - clefyd sy'n cael ei achosi gan asbestos - yn gyfrifol am tua 90 o farwolaethau yng Nghymru bob blwyddyn, gyda'r gost i'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru oddeutu £2 miliwn y flwyddyn.
Byddai'r Mesur Atafael Costau Meddygol am Glefydau Asbestos yn golygu y gallai Llywodraeth Cymru hawlio cost y driniaeth gan gyflogwr neu gwmni yswiriant yn dilyn canlyniad achosion llys sifil.
Byddai'r mesur hefyd yn berthnasol i gyflogwyr o'r tu allan i Gymru petai'r claf wedi cael triniaeth yng Nghymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd16 Mai 2012