Cymdeithasau tai mewn peryg?
- Cyhoeddwyd
Mae honiad fod dyfodol cymdeithasau tai mewn peryg oherwydd y bydd pobl yn ei chael hi'n anodd i dalu rhent.
Daw hyn wrth i Gyngor ar Bopeth ddweud y gallai newidiadau yn y sustem lwfansau olygu bod mwy o denantiaid yn mynd i ddyled yng nghymoedd y de.
Dywed llywodraeth San Steffan fod angen newid y sustem lwfansau er mwyn ei gwneud yn decach.
Dywed Cyngor ar Bopeth yn Rhondda Cynon Taf eu bod wedi gweld cynnydd o 165% yn nifer y bobl sy mewn dyled o ran tannu rhent eleni.
Ystafelloedd gwely
Yn ôl prif weithredwr CAB yn Rhondda Cynon Taf, Erika Helps, bydd newidiadau i'r system lwfansau ym mis Ebrill yn gweld mwy o bobl yn ei chael hi yn anodd i dalu rhent.
"Rydym yn mynd i weld mwy o bobl yn dod atom gyda phroblemau ariannol, bydd angen cymorth arnynt i gyllido ac i reoli eu lwfansau yn y dyfodol.
"Yn y tymor byr bydd landlordiaid yn mynd ar ôl y bobl hyn oherwydd bod arian yn ddyledus. "
O fis Ebrill bydd teuluoedd mewn tai cyngor, neu sy'n rhentu o gymdeithasau tai, yn cael eu hasesu er mwyn gweld faint o ystafelloedd gwely sydd ei angen arnynt.
Bydd y rhai sydd â gormod o le yn cael llai o lwfans
Dywed Nick Bennett, prif weithredwr Tai Cymunedol Cymru, corff sy'n cynrychioli cymdeithasau tai, y bydd lleihad mewn incwm rhent yn cael effaith ar y cymdeithasau tai.
Mae o'n dweud y bydd yn cael effaith ar eu gallu i ad-dalu tua £1.5 biliwn sydd wedi ei fenthyg er mwyn codi tai newydd.
"O ran y cymdeithasau tai, rhent i'w incwm sy'n helpu dod ag incwm sy'n ein galluogi i dalu'r ddyled ar yr arian rydym wedi ei fenthyg - £1.5 biliwn er mwy codi tai fforddiadwy yng Nghymru."
"Mae'r newidiadau yn bygwth yr holl drefn."
Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Gwaith a Pensiynau: "Nid bwriad y newidiadau yw gwneud pobl yn ddigartref.
"Y nod yw dod a thegwch i system sydd wedi bod allan o reolaeth.
"Mae'n deg fod pobl sy'n byw mewn tai sy'n fwy na'r hyn sydd eu hangen yn gwneud cyfraniad i'w rhent, neu yn symud i gartref sy'n fwy addas i'w anghenion - a dyna beth sy'n digwydd i bobl sy'n rhentu yn y sector breifat. "
Dywedodd nad oedd yn disgwyl y byddai llawr o bobl yn symud oherwydd y newidiadau.
Ychwanegodd fod £155 miliwn ar gael i helpu teuluoedd a £30 miliwn i helpu pobl anabl sydd â thai wedi eu haddasu.