Trafod dyfodol newydd i Ynys Echni
- Cyhoeddwyd
Fe ddylai ynys yng nghanol Môr Hafren cael ei datblygu yn atynfa hamdden yn ôl Cymdeithas Twristiaeth Gwlad yr Haf.
Daw hyn wedi penderfyniad Cyngor Caerdydd i ystyried gwerthu Ynys Echni oddi ar yr arfordir ger Penarth.
Mae'r gymdeithas felly yn awgrymu hyrwyddo'r ynys yma yn ogystal ag Ynys Ronech ger llaw.
Ynys Echni yw pwynt mwyaf deheuol Cymru ac ar hyn o bryd sydd o dan berchnogaeth Cyngor Caerdydd.
Mae Ynys Ronech drws nesaf o dan berchnogaeth breifat.
Mae'r cyngor angen arbed £110 miliwn.
Mae gwerthu'r ynys felly yn un o sawl awgrym a fydd yn cael eu trafod mewn cyfarfod llawn o'r cyngor ar Chwefror 28.
Dywedodd cadeirydd Cymdeithas Twristiaeth Gwlad yr Haf, Bob Smart: "Mae'r posibilrwydd o weld newid ym mherchnogaeth Ynys Echni yn codi'r cwestiwn diddorol, a ellir cyfuno ynysoedd Echni a Ronech fel un pecyn twristaidd cyffrous?
Ymelwa o'r ynysoedd
"Mae pawb yn hoffi crwydro o amgylch ynysoedd bach a does gan Loegr ddim llawer ohonyn nhw, felly mae hyn yn gryfder dyle ni gwneud y gorau ohono."
Dydi Mr Smart ddim wedi astudio'r effaith economaidd o gyfuno'r ddwy ynys, ond ychwanegodd: "Mae yna lawer o ddiddordeb mewn cynyddu'r traffig hamdden ym Môr Hafren, ond ar hyn o bryd, dim ond yn yr haf y mae pobl yn ymweld ag Ynys Echni.
"Mae'n adnodd y gellir elwa'n fawr ohono."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Dydi'r cyngor ddim yn ystyried gwerthu'r ynys ar hyn o bryd.
"Os yw'r cyfarfod ar Chwefror 28 yn cadarnhau lleihad mawr yn y cyllid i gefnogi Ynys Echni yna mae'n debyg y bydd opsiynau eraill yn cael eu hystyried ar gyfer rhedeg yr ynys.
"Yn yr amgylchiadau yma, bydd y cyngor yn chwilio am ddiddordeb gan gyrff a sefydliadau a bydd unrhyw un a dderbynnir yn cael ei ystyried yn llawn cyn bydd unrhyw benderfyniad am ddyfodol yr ynys yn cael ei wneud."
Mae Ynys Echni tua 86 acer o faint ac yn enwog am ei fywyd gwyllt.
Mae hi wedi ei henwi yn safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2013