Llofrudd April: Celwydd y 'ffantasïwr'

  • Cyhoeddwyd
Mark Bridger
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd yr achos yn erbyn Mark Bridger ei fod wedi dweud celwyddau am ei yrfa a'i gefndir

Daeth yn amlwg fod y dyn a gipiodd ac a lofruddiodd April Jones yn ffantasïwr a chanddo ddiddordeb mewn delweddau o dreisio, cam-drin plant, a phlant a gafodd eu llofruddio, yn ogystal â delweddau cyffredin o blant oedd yn byw yn ei gymuned.

Cafwyd Mark Bridger yn euog o lofruddio April Jones, merch 5 oed a ddiflannodd ar ôl bod yn chwarae gyda'i ffrindiau ger ei chartref ym Machynlleth ym mis Hydref y llynedd.

Ond pwy yn union yw Bridger?

Cafodd ei eni ar Dachwedd 6, 1965 yn Sutton, Surrey.

Symudodd i Fachynlleth tua ugain mlynedd yn ôl.

Fe'i disgrifiwyd gan bobl fu'n gweithio gydag ef yno fel dyn "cymdeithasol" a "gweithiwr caled".

Ond roedd sawl un hefyd yn dweud fod ganddo obsesiwn gyda'r lluoedd arfog, a honnodd iddo weithio fel arbenigwr difa bomiau a'i fod wedi gwasanaethu gyda'r SAS.

'Troseddau erchyll'

Pan gafodd ei arestio gan yr heddlu mewn cysylltiad â diflaniad April, dywedodd wrth yr heddlu mewn cyfweliadau ei fod wedi "disgleirio" yn ei wasanaeth milwrol.

Ond chafodd yr heddlu ddim hyd i unrhyw dystiolaeth o yrfa yn y fyddin.

Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Andy John, o Heddlu Dyfed-Powys, a arweiniodd y chwilio am April, fod Mark Bridger, mae'n ymddangos, yn "ffantasïwr".

Yn hytrach na chael gyrfa nodedig yn y fyddin, clywodd y llys iddo fod mewn trafferth gyda'r heddlu pan oedd yn ei arddegau.

Roedd wedi pledio'n euog i nifer o droseddau gan gynnwys bod â gwn ffug yn ei feddiant gyda'r bwriad o gyflawni trosedd, a bod â gwn go iawn yn ei feddiant.

Yn ystod y 1990au cynnar, fe'i cafwyd yn euog hefyd o ddifrod troseddol, affraë a gyrru heb yswiriant.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mark Bridger gelwydd am yrfa yn y fyddin

Bu Bridger yn gweithio mewn sawl maes ar ôl iddo symud i Gymru.

Dywedodd iddo fyw mewn sawl lle gan gynnwys Porthmadog, Blaenau Ffestiniog a'r Bala yn ogystal â Machynlleth.

Gweithiodd am gyfnod yng Nghanolfan Hamdden Bro Ddyfi ym Machynlleth gafodd ei ddefnyddio fel canolfan i chwilio am April Jones yn y dyddiau wedi iddi ddiflannu.

Bu hefyd yn gweithio mewn lladd-dy, fel cynorthwy-ydd cegin mewn gwesty, a weldiwr a bu'n helpu i ailwampio gwesty lleol.

Ond i'r rhai oedd yn ei nabod yn yr ardal - pobl fel Dennis Jones o Gorris - doedd dim arwydd o'r hyn oedd i ddod.

"Fues i yng nghwmni Mark yn ei dŷ ..... yn ei nabod e'n gymdeithasol ar gychwyn y 90au. Roedd e'n fachgen hollol ddymunol, naturiol, yn mwynhau cymdeithasu, yn mwynhau chwarae pŵl a dartiau a hyn ag arall," meddai Mr Jones .

"Faswn i byth bythoedd yn meddwl fod o'n gallu gwneud y fath beth.

"O'n i'n meddwl o ddifri calon mod i'n ei nabod o, ond mae'n amlwg nad oeddwn i ddim."

Chwech o blant

Roedd gan Mark Bridger chwech o blant gyda nifer o fenywod gwahanol.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Roedd gan Bridger ddelweddau o dreisio a phlant oedd wedi cael eu llofruddio ar ei gyfrifiadur yn ei gartref yng Ngheinws

Honnodd Bridger ei fod wedi troi at alcohol wedi i berthynas gydag un fenyw ddod i ben, a dywedodd hefyd ei fod wedi bod ar gyffuriau gwrth-iselder ar wahanol adegau dros gyfnod o 12 mlynedd.

Roedd perthynas gydag un fenyw wedi dod i ben ar y diwrnod y diflannodd April, ac roedd wedi cysylltu gyda thair menyw arall ar wefan Facebook i ofyn a oedden nhw am gwrdd ag ef.

Delweddau

Ar y diwrnod hwnnw hefyd roedd noson i rieni yn Ysgol Gynradd Machynlleth, ac yn ystod yr achos yn erbyn Bridger cafwyd tystiolaeth gan y pennaeth, Gwenfair Glyn.

Dywedodd hithau fod Bridger wedi cael perthynas gyda nifer o famau ifanc, a bod sawl "cysylltiadau cymhleth rhwng nifer o deuluoedd". Roedd wedi siarad gyda Bridger, a hefyd wedi ei weld yn siarad gyda chyn-ddisgybl oedd bellach yn yr ysgol uwchradd, a'i bod wedi gweld hynny'n beth "rhyfedd".

Wrth ddisgrifio ei gymeriad, dywedodd Ms Glyn: "Mae Mr Bridger wastad yn hyderus a chwrtais drwy'r amser."

Pan ddaeth yr heddlu o hyd i gyfrifiadur Bridger, fe ddaeth natur gudd y dyn i'r amlwg.

Roedd ganddo ffeiliau oedd yn cynnwys delweddu o gam-drin plant, delweddau graffig o dreisio a lluniau o blant oedd wedi cael eu llofruddio gan gynnwys Holly Wells a Jessica Chapman o Soham.

Yn rhan o'i gasgliad hefyd roedd dwsin o luniau o ferched ifanc lleol oddi ar wefannau cymdeithasol gan gynnwys April Jones.

Patrymau

Yn ystod yr oriau cyn diflaniad April, clywodd yr achos ei fod wedi mynd at ferch 10 mlwydd oed oedd yn chwarae ger y lle y gwelwyd April am y tro diwethaf.

Aeth at y ferch a'i gwahodd i sleepover gyda'i ferch ef, ond ni chafodd trefniadau pendant eu gwneud.

Yn fuan wedi hynny, fe gipiodd April Jones a'i llofruddio.

I bobl fel Dr James Gravelle o Adran Gwyddorau'r Heddlu ym Mhrifysgol Morgannwg, mae'r ymddygiad yn cydfynd â thystiolaeth ymchwil ym maes troseddu o'r fath.

Dywedodd: "Os y'n ni'n edrych ar ymchwil sy'n dod allan o America, yn bendant mae merched yn fwy tebygol o gael eu cipio gan ddynion, dyna mae'r ystadegau'n dweud wrthon ni.

"Yn anffodus hefyd, mae yna elfen rywiol yn aml iawn yn perthyn i hyn."

'Un ohonom ni'

Ac er bod arestio Mark Bridger wedi bod yn syndod i nifer o bobl ardal Machynlleth - pobl fel Anwen Morris - mae ei theimladau tuag ato wedi newid.

"Roedd yn siarad gyda phawb, ac roedd pawb yn ei nabod.

"Ond mae'n erchyll meddwl am y posibilrwydd fod ganddo luniau o bobl rwy'n eu nabod, plant rwy'n eu nabod ac efallai fy mhlant fy hunan.

"Mae ganddo blant yr un oed â fy mhlant i.

"Dydw i ddim yn ei ystyried fel ffrind mwyach. Dydw i ddim yn credu fy mod am gofio amdano fyth mwy.

"Dyw e ddim yn rhywun ddaeth o'r tu allan. Mae'n rhywun oedd yn byw yn ein plith, ac sydd wedi cymryd un ohonom ni."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol