Newid i Gymorth Cyfreithiol yn arwain at golli 60 o swyddi

  • Cyhoeddwyd
Barnwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae 'na newidiadau i gymorth cyfreithiol all arwain at golli swyddi

Bydd o leiaf 60 o swyddi yn cael eu colli yn y sector cynghori yng Nghymru o ganlyniad i'r newidiadau i gymorth cyfreithiol, mae'r BBC wedi cael ar ddeall.

Mae'r newidiadau yn golygu na fydd degau o filoedd o bobl y flwyddyn yn medru cael cyngor arbenigol yn rhad ac am ddim ar faterion fel dyledion a budd-daliadau lles, y rhan fwyaf o anghydfodau teuluol a rhai problemau tai.

Gallai hyn olygu, felly, bod mwy o achosion yn cael eu hariannu'n breifat yn hytrach nag o'r pwrs cyhoeddus.

Yn ôl Llywodraeth y DU, bydd y newidiadau yn arbed dros £400 miliwn y flwyddyn ac yn effeithio ar tua 585,000 o gleientiaid yng Nghymru a Lloegr a fydd yn colli gwerth tua £240 miliwn mewn gwasanaethau cymorth cyfreithiol.

Yn ôl y beirniaid, bydd y newidiadau yn taro'r gwanaf mewn cymdeithas yn fwyaf caled, ar adeg o newidiadau aruthrol i'r system budd-daliadau.

'Cymhleth'

Mae Jackie Preston yn bennaf gyfrifol am Ganolfan Cyngor ar Bopeth Abertawe Castell-nedd, un o'r prysuraf yng Nghymru, ac mae tua chwarter ei chyllid yn dod o Gymorth Cyfreithiol.

"Os yw rhywbeth yn gymhleth yn gyfreithiol, mae gennym weithwyr sy'n cael eu cyllido gan gymorth cyfreithiol.

"Maen nhw'n helpu pobol sy'n mynd i dribiwnlys, yn eu helpu i gyflwyno tystiolaeth yn ymwneud â budd-daliadau lles.

"Rydym hefyd yn helpu pobl sydd â dyledion lluosog i negydu gyda'u credydwyr."

£2 biliwn

Bydd y newidiadau, sy'n cael eu cyflwyno ym mis Ebrill, yn golygu gostwng y gost flynyddol o £2 biliwn i'r llywodraeth o tua 20%.

Dywedodd yr Arglwydd McNally o'r Weinyddiaeth Gyfiawnder: "Ar gost o dros £2 biliwn y flwyddyn, mae gennym un o'r systemau cymorth cyfreithiol drytaf yn y byd a dyw hyn ddim yn fforddiadwy yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni.

"Tra ei fod yn rhan holl bwysig o'n system gyfiawnder, nid yw'r adnoddau sydd ar gael yn ddi-ben-draw.

"Ry' ni wedi gorfod gwneud dewisiadau anodd ynghylch sut i flaenoriaethu ein gwariant ar y mwyaf anghenus.

"Mae 'na ddirfawr angen newid os ydym am gael system gyfiawnder gyfoes ac effeithlon.

"Rydym yn bendant y dylai achosion o esgeulustod clinigol yn ymwneud ag achosion obstetreg sy'n arwain at anabledd difrifol gael cymorth cyfreithiol.

"Felly fe wnaethom newid i'r Mesur Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr sydd wedi gwneud hyn yn glir o ran y gyfraith.

"Fe fydd 'na elfen o ddiogelwch yn parhau gydag achosion mwy difrifol a chymhleth, ble mae hawliau dynol yn ffactor."

'Pryder mawr'

Yng Nghymru bydd swyddi o leiaf 60 o gynghorwyr arbenigol mewn canolfannau Cyngor ar Bopeth a darparwyr annibynnol fel Shelter Cymru, yn cael eu colli.

Dywedodd Aelod Seneddol Plaid Cymru Elfyn Llwyd ei fod yn pryderu y bydd y rhai cwmnïau cyfreithiol bychain yn dod i ben oherwydd y newidiadau.

"Fe fydd yn ergyd drom ar adeg anodd eisoes i'r cwmnïau oherwydd y gostyngiad mewn gwaith trosglwyddo eiddo.

"Bydd rhannau o Gymru yn troi'n anialwch o ran cyngor. Mae hynny'n destun pryder mawr."

"Eye on Wales", BBC Radio Wales, dydd Sul Chwefror 17, 1.30pm.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol