Carwyn Jones: Dylid datganoli plismona

  • Cyhoeddwyd
Carwyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Prif Weinidog Cymru: "Dylai penderfyniadau sy'n effeithio ar Gymru gael eu gwneud yng Nghymru."

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi dweud y dylid datganoli pwerau dros yr heddlu, wrth iddo amlinellu tystiolaeth ei lywodraeth i'r comisiwn sy'n ystyried adolygu pwerau'r Cynulliad Cenedlaethol.

Dywedodd Mr Jones fod angen "gwella ac ailstrwythuro" datganoli trwy ddeddfu.

Yn ogystal â galw am bwerau dros yr heddlu, dywedodd y byddai Llywodraeth Cymru hefyd yn dymuno gweld cyfiawnder troseddol yn cael ei ddatganoli yn y 'tymor hir'.

Ond er ei bod am reoli cynlluniau ynni mawr, dydy Llywodraeth Cymru ddim am gael pwerau mewn perthynas ag ynni niwclear.

Dywedodd Mr Jones "Dylai penderfyniadau sy'n effeithio ar Gymru gael eu gwneud yng Nghymru.

"Plismona a chyfiawnder troseddol yw'r unig rai o'r prif wasanaethau cyhoeddus sydd heb eu datganoli i Gymru.

"Mae'r status quo hynny'n gynyddol anodd ei gyfiawnhau..."

Comisiwn Silk - ail adroddiad yn 2014

Cafodd Comisiwn Silk ei sefydlu gan gyn Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, i ystyried pwerau'r Cynulliad Cenedlaethol.

Ym mis Tachwedd, cyhoeddwyd yr adroddiad cyntaf, Grymuso a Chyfrifoldeb: Pwerau Ariannol i Gryfhau Cymru, dolen allanol.

Roedd hwnnw'n argymell y dylai Llywodraeth Cymru gael grymoedd i amrywio treth incwm erbyn y flwyddyn 2020, ac y dylai fod yn gyfrifol am godi tua chwarter ei chyllideb.

Mae disgwyl y bydd ail adroddiad yn cael ei gyhoeddi flwyddyn nesaf.

Roedd Carwyn Jones yn cyflwyno tystiolaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer yr adroddiad hwnnw pan ddywedodd na ddylai Cymru golli unrhyw bwerau a bod angen mwy o bwerau ar y Cynulliad.

Mae'r pwerau y mae ei lywodraeth yn dweud y dylid eu datganoli yn cynnwys:

  • Plismona, diogelwch cymunedol ac atal troseddu

  • Dŵr

  • Diogelwch ffyrdd - gan gynnwys pwerau dros or-yrru a'r trothwy yfed a gyrru

  • Porthladdoedd

  • Trwyddedu alcohol ac adloniant gyda'r nos

  • Gweinyddu etholiadau

Dywedodd Mr Jones: "Mae angen i'r penderfyniadau allweddol dros blismona, ynni, trafnidiaeth gyhoeddus a diogelwch cymunedol gael eu gwneud yng Nghymru, dros Gymru, gan y rheiny ohonom sydd wedi ein hethol yn uniongyrchol gan bobl Cymru".

'Gwell hwyr na hwyrach'

Wrth ymateb i ddatganiad Carwyn Jones, dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Kirsty Williams:

"Mae'n well hwyr na hwyrach fod y Prif Weinidog wedi dal i fyny a galw am bwerau priodol ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol, ond y cwestiwn yw, a ydi ei blaid yn cefnogi ei safbwynt?

"Fel rydym ni i gyd yn gwybod, yn draddodiadol ychydig iawn o ddylanwad y mae Llywodraeth Llafur Cymru wedi ei gael dros eu cydweithwyr Llafur yn Llundain. Mae gan bobl Cymru hawl i wybod beth yw safbwynt y blaid Lafur ar hyn."

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: "Tra ein bod ni wedi ein plesio gyda chyfeiriad yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig... mae'n rhy araf, ac fe fyddai'n gadael y prif rymoedd yn San Steffan.

"Mae yna gwestiwn nid yn unig ynghylch pa rymoedd a ddylid eu trosglwyddo i Gymru, ond pryd y dylen nhw gael eu trosglwyddo".

Roedd yna groeso i'r cynigion gan gomisiynydd heddlu a throsedd de Cymru, Alun Michael: "Mae'r cynnig yn cydnabod bod plismona, diogelwch cymunedol a lleihau troseddu yn annatod gysylltiedig â meysydd eraill o bolisi cyhoeddus, gan gynnwys addysg, datblygu economaidd, iechyd a llywodraeth leol - sydd i gyd yn dod o dan Lywodraeth Cymru."

'Problemau trawsffiniol'

Dywedodd Gwir Gymru, a ymgyrchodd dros bleidlais Na yn refferendwm 2011, eu bod wedi eu syfrdanu gan y cyhoeddiad.

Meddai eu llefarydd Rachel Banner: "Yn ystod un ddadl gyhoeddus yn y Coed Duon, dywedodd y Prif Weinidog ei hun ei fod yn gwrthwynebu Cymru'n cael ei chyfundrefn gyfiawnder troseddol ei hun gan y byddai'n rhy gostus.

"Ond nawr mae e'n dweud bod hyn yn uchelgais tymor hir.

"Roeddem ni wedi rhybuddio y gallai hyn ddigwydd, a'r cwestiwn yw beth fydd pen draw hyn?

"Allwn ni gredu beth y mae gweinidogion a gwleidyddion yn y Cynulliad yn ei ddweud wrthon ni?"

Ychwanegodd Ms Banner fod Gwir Gymru yn erbyn datganoli pwerau dros blismona: "Byddai'n creu nifer o broblemau traws-ffiniol, heb son am greu llawer o ddyblygu."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol