Cig ceffyl: 'Dylai siopau wneud mwy'

  • Cyhoeddwyd
Alun Davies AC
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Alun Davies nad oedd 'na dystiolaeth bod cig ceffyl yn cael effaith ar iechyd pobl

Mae Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth a Bwyd Llywodraeth Cymru wedi dweud y dylai siopau wneud mwy i dawelu meddyliau cwsmeriaid, ar ôl i gig ceffyl gael ei ddarganfod mewn rhai bwydydd.

Wrth siarad ag Aelodau Cynulliad yn y Senedd, fe ddywedodd Alun Davies nad oedd 'na dystiolaeth bod cig ceffyl yn cael effaith ar iechyd pobol, ac nad oes angen i bobl boeni.

Mae Mr Davies wedi siarad sawl tro â Defra a dywedodd ei fod yn fodlon iawn gyda'r ffordd y mae'r llywodraeth yng Nghymru yn cydweithio gyda'r gwahanol gyrff.

"Yr hyn yr ydyn ni'n ei wneud fel llywodraeth yw cefnogi'r heddlu a'r FSA", meddai.

"Dwi'n awyddus fod pobl yn gallu parhau i fod â hyder yn y ffordd y caiff cig eidion ei brosesu ... a'i fod o'r safon ucha'."

Yn y cyfamser, cwmni bwyd Nestlé ydi'r diweddaraf i ddweud eu bod nhw wedi dod o hyd i olion cig ceffyl mewn cynnyrch cig eidion, a hynny yn Sbaen a'r Eidal. Yn ôl y cwmni, does dim olion wedi eu darganfod yn eu profion ym Mhrydain hyd yma.

Disgrifiad o’r llun,

Owen Paterson: cyfarfod "adeiladol iawn" gyda chynrychiolwyr yr archfarchnadoedd

Canlyniadau pellach

Ddydd Llun bu Ysgrifennydd Amgylchedd Llywodraeth y DU, Owen Paterson yn cyfarfod â chynrychiolwyr yr archfarchnadoedd.

Wedi'r cyfarfod hwnnw, dywedodd Mr Paterson fod y manwerthwyr bwyd wedi cytuno i hysbysu gweinidogion ynghylch profion DNA ar gig eidion wedi ei brosesu bob tri mis.

Ychwanegodd y byddai canlyniadau pellach o brofion yr FSA yn barod erbyn dydd Gwener, a rhagor ar ddydd Gwener Mawrth 1.

Roedd y cyfarfod meddai yn "adeiladol iawn", gydag ymrwymiad gan bawb "i gydweithio i ailadeiladu'r sicrwydd ac ymddiriedaeth y mae defnyddwyr yn ei haeddu".

Dywedodd cyfarwyddwr y Consortiwm Manwerthu Prydeinig, Helen Dickinson, fod manwerthwyr yn ymateb i'r argyfwng trwy gyfathrebu â chwsmeriaid yn ddyddiol, trwy diweddaru hyfforddiant ar gyfer staff, a cheisio sefydlu beth oedd achos y methiannau yn y gadwyn gyflenwi trwy gynnal profion pellach.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol