Honiadau o ddiffyg gweithredu wedi adroddiadau trais
- Cyhoeddwyd
Bydd Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (CCAH) yn ymchwilio i honiadau pellach nad oedd Heddlu De Cymru wedi ymateb wedi honiadau o dreisio.
Penderfynodd y comisiwn ymchwilio wedi iddi ddod i'r amlwg y gallai ditectif gyda'r llu fod wedi methu â gweithredu ar adroddiadau ym mis Mawrth 2012 am achos honedig o drais yn erbyn merch dan oed.
Daeth yr achos i'r amlwg yn ystod ymchwiliad troseddol ar wahân gan Heddlu'r De i honiadau eraill o droseddau rhyw yn erbyn yr unigolyn dan sylw.
Mae'r ditectif yn gweithio gydag Uned Ogleddol yr heddlu ac mae hefyd yn rhan o ymchwiliad arall gan y comisiwn i honiadau ar wahân ymwneud ag adroddiadau wnaed am ganwr y Lostprophets, Ian Watkins, i'r heddlu.
'Ail ddigwyddiad'
Dywedodd Comisiynydd CCAH yng Nghymru, Tom Davies: "Roedd y cyfeiriad gan yr heddlu'n ymwneud â'r ffaith fod un swyddog ddim wedi gweithredu, ac mae'r swyddog dan sylw yn destun ymchwiliad arall mewn achos ar wahân, yn ymwneud â honiadau tebyg.
"Rwyf wedi penderfynu y byddwn yn ymchwilio'n annibynnol i'r cyfeiriad diweddara' yma. Gan mai dyma'r ail ddigwyddiad yn ymwneud â swyddog yn y rhan yma o'r llu, rwyf hefyd wedi penderfynu edrych ar sut y cafodd y swyddog yma ei reoli."
"Mae'r unigolyn a honnir oedd wedi cyflawni'r trais bellach wedi ei gyhuddo o dri achos ar wahân o ymosodiadau rhywiol difrifol a ddigwyddodd wedi'r adroddiad ym mis Mawrth 2012.
"Cafodd y dyn ei gyhuddo ym mis Rhagfyr 2012 o'r troseddau hyn ac mae'r broses droseddol eisoes wedi dechrau."