Cyngor: 200 o swyddi dan fygythiad?
- Cyhoeddwyd
Bydd cynghorwyr ym Mhowys yn pleidleisio ar gynllun i ddiswyddo tua 200 o staff yr awdurdod lleol.
Mae Cyngor Powys ceisio arbed £30 miliwn dros y tair blynedd nesaf.
Gallai'r cyngor arbed £4.8 miliwn drwy dorri swyddi rheolwyr ond maent hefyd yn ystyried torri 75% o grantiau cymunedol a dechrau codi tâl ar drafnidiaeth i ddisgyblion dosbarth chwech.
'Newidiadau sylfaenol'
Bydd y cyngor llawn yn pleidleisio ar y cynigion mewn cyfarfod yn Llandrindod ddydd Iau.
Mae nifer o swyddi rheolwyr i dan fygythiad wrth i'r cyngor geisio lleihau'r gweithlu o 4%.
"Bydd y newidiadau yn effeithio uwch swyddi gan gynnwys proses gwerthuso swyddi," meddai arweinydd y cyngor, David Jones.
Dywedodd Mr Jones fod y cyngor wedi rhybuddio staff a defnyddwyr eu gwasanaethau fod angen gwneud newidiadau sylfaenol ers peth amser.
"Byddwn yn canolbwyntio ar gyfrifoldebau a swyddogaethau unigolion a gwasanaethau ar draws y sefydliad," meddai.
Dywedodd trefnydd rhanbarthol Unison, Andrew Woodman: "Ni fydd cael gwared â swyddi rheolwyr yn ddigon i sicrhau cydbwysedd yn gyllideb.
"Rwy'n ofni bydd y toriadau hyn yn lledu i lefelau eraill yn y cyngor.
"Rydym yn ymwybodol bod cynghorau lleol Cymru o dan bwysau ariannol ond nid torri swyddi yw'r ateb."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2012