Ysgol yn colli ei chweched dosbarth
- Cyhoeddwyd
Mae Cabinet Cyngor Powys wedi penderfynu peidio â chyllido cyrsiau Blwyddyn 12 yn Ysgol John Beddoes yn Llanandras o fis Medi ymlaen.
Roedd gwrthwynebiad i'r cynllun a rhai yn dadlau y gallai colli'r chweched dosbarth yn llwyr arwain at fwy o ddisgyblion yn mynd i Loegr i gael eu haddysg.
Yn ôl adroddiad gerbron y cabinet dim ond wyth myfyriwr Blwyddyn 12 sy'n astudio cyrsiau yn yr ysgol ar hyn o bryd.
Dywedodd yr adroddiad fod hyn yn costio £20,850 y disgybl.
Mesurau arbennig
Ysgol John Beddoes yw'r un gyntaf ym Mhowys i golli ei chweched dosbarth.
Ond y mae arian yn dal ar gael fel bod modd i'r wyth myfyrwyr orffen eu cyrsiau yn 2014.
Daw'r argymhelliad fis ar ôl i fesurau arbennig gael eu cyflwyno yn Ysgol John Beddoes wedi adroddiad beirniadol Estyn.
Mae'r pum cynghorydd sir sy'n cynrychioli pobl dalgylch yr ysgol wedi datgan eu pryder ynglŷn ag effaith y cynllun ar ddisgyblion.
Dywedodd y cynghorwyr y byddai cydweithio ag Ysgol Lady Hawkins yn Kington, sydd dros y ffin yn Lloegr, yn galluogi addysg ôl 16 i barhau yn yr ardal.
Roedden nhw wedi annog y cabinet i ystyried yr opsiwn hwn cyn dileu'r cyllid.
Yn ôl y datganiad, gallai cael gwared ar Flwyddyn 12 Ysgol John Beddoes arwain at ddisgyblion iau yn cael eu trosglwyddo i ysgolion eraill sy'n cynnig addysg ôl 16.
Byddai hyn yn effeithio ar safonau'r ysgol.
Anogodd y cynghorwyr y cabinet i ohirio unrhyw benderfyniad am y cynllun tan i'r manylion llawn am yr effaith ar ddisgyblion gael eu cyflwyno mewn adroddiad i gyfarfod nesaf y cabinet.
Diffygion
Fe wnaeth arolygwyr Estyn ymweld ag Ysgol John Beddoes ym mis Hydref cyn cyhoeddi adroddiad beirniadol ynghylch safonau'r ysgol ym mis Rhagfyr.
Mae swyddogion o Bowys a Cheredigion wedi cael eu hanfon i'r ysgol er mwyn cefnogi'r staff.
Mae'r cyngor sir nawr yn llunio cynllun i fynd i'r afael â'r diffygion a gofnodwyd yn yr adroddiad.
Bydd y cynllun yn cael ei gyflwyno i Estyn ac yna bydd arolygwyr yn ymweld yn gyson â'r ysgol.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Powys nad oedd y cais aeth gerbron y cabinet ddydd Mawrth yn rhan o'r cynllun i fynd i'r afael â diffygion yr ysgol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2012