Ynys Môn: Ymyrraeth i orffen yn llwyr yn y misoedd nesaf
- Cyhoeddwyd
Mae gobaith y bydd Cyngor Sir Ynys Môn yn cael ei redeg gan gynghorwyr unwaith eto erbyn diwedd mis Mai eleni.
Mewn datganiad ddydd Iau, dywedodd y Gweinidog Llywodraeth Leol, Carl Sargeant, ei fod yn gobeithio dod â'i ymyrraeth yn yr awdurdod i ben erbyn hynny.
Cyn diwedd mis Mai, fe fydd etholiadau cyngor yn cael eu cynnal ar yr ynys - cafodd Ynys Môn ei heithrio o etholiadau cynghorau gweddill Cymru y llynedd oherwydd y trafferthion yno.
Cafodd comisiynwyr eu penodi gan y gweinidog i redeg yr awdurdod ym mis Mawrth 2011 wedi cyfres o adroddiadau ac archwiliadau beirniadol iawn o'r cyngor.
Ym mis Hydref 2012, fe gafodd presenoldeb y comisiynwyr ei leihau yno, a dywedodd Mr Sargeant bod yr awdurdod wedi parhau i wella ers hynny.
'Goreuon'
"Mae gwleidyddiaeth y Cyngor dal i fod yn sefydlog ac yn aeddfed," meddai.
"Mae'r Cynghorwyr yn gwneud eu gwaith yn effeithiol, ac maen nhw wedi profi eu bod nhw'n ddigon abl i reoli'r gwaith o ddydd i ddydd.
"Rwy'n fwyfwy hyderus fod hwn yn newid parhaol ac mai atgof yn unig yw'r hen Ynys Môn.
"Rwy'n credu y gall Cyngor Môn ddatblygu i fod yn un o'r goreuon yng Nghymru.
"Er bod heriau sylweddol i'w cael o hyd, fel y diffygion yng ngwasanaeth addysg y Cyngor, lle mae Bwrdd Adfer wedi'i sefydlu i fynd i'r afael â nhw, mae 'na arwyddion clir fod y Cyngor wedi llwyddo i adfer y sefyllfa.
"Mae'n amlwg fod y Cyngor yn cael ei redeg yn effeithiol erbyn hyn, a bod y Cynghorwyr a'r swyddogion yn gweithio tuag at yr un nod: sicrhau adferiad hirdymor a gwell dyfodol i'r ynys."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Medi 2012
- Cyhoeddwyd9 Mai 2012
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2011