Dirwyn ymyrraeth i ben yn raddol yn Ynys Môn

  • Cyhoeddwyd
Cyngor Sir Ynys Môn
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr etholiadau lleol eu gohirio ar Ynys Môn am flwyddyn

Mae Gweinidog Llywodraeth Leol Cymru wedi amlinellu cynlluniau i ddod ag ymyrraeth Llywodraeth Cymru yng Nghyngor Sir Ynys Môn i ben yn raddol.

Mewn datganiad ysgrifenedig, esboniodd Carl Sargeant i Aelodau Cynulliad fod y cyngor, sydd ar hyn o bryd dan stiwardiaeth pum comisiynydd a gafodd eu penodi gan y Gweinidog ym mis Mawrth 2011, yn gwneud "cynnydd da" ac erbyn hyn yn canolbwyntio'n effeithiol ac yn gyson ar y materion hynny sy'n bwysig i'r ynys.

Serch hynny, dywedodd y byddai'n ymestyn ei gyfarwyddyd presennol o ddiwedd Mai hyd at ddiwedd Medi 2012 er mwyn galluogi aelodau newydd o'r tîm uwch-reoli i gael eu penodi a setlo i mewn i'w swyddi newydd.

'Rhai pryderon'

"Mae fy Nghomisiynwyr wedi dod i'r casgliad, er bod yna rai pryderon o hyd ynghylch llywodraethu'r cyngor, nad oes yna unrhyw beryglon difrifol erbyn hyn," meddai.

"Mae'r Archwilydd Cyffredinol wedi dod i'r un casgliad, ac wedi argymell y dylwn ddechrau cynllunio sut i ddod â fy ymyrraeth i ben."

Bydd Comisiynwyr yn aros mewn grym nes i'r uwch-dîm fod yn ei le.

Os yw'r Gweinidog a hwythau yn fodlon bryd hynny bod y cynghorwyr a'r uwch-dîm rheoli yn barod i gymryd yr awenau, ac os bydd cynnydd mewn meysydd eraill yn parhau, yna dywedodd y Gweinidog y byddai'n dirwyn ei ymyrraeth i ben.

Byddai hynny'n golygu, i ddechrau, lleihau presenoldeb a chyfrifoldebau'r Comisiynwyr.

Byddai'r Cynghorwyr yn ailafael yn yr awenau, ond gallai'r Comisiynwyr wyrdroi unrhyw benderfyniad y maen nhw'n eu hystyried yn annoeth neu'n afresymol.

Byddai hefyd yn bosib i'r Comisiynwyr gymryd yr awenau'n llawn eto petai'r adferiad yn pallu.

Wedi'r etholiad

"Bydd y dull hwn o weithredu yn caniatáu i ni brofi pa mor gynaliadwy yw'r newid, o fewn amgylchedd sydd wedi'i reoli," ychwanegodd Mr Sargeant.

"Bydd yn golygu y gallwn symud yn gynnar i sefyllfa o wneud penderfyniadau yn lleol, ond gyda dulliau diogelu priodol.

"Os bydd hynny'n llwyddiannus, dylwn allu dirwyn fy ymyrraeth i ben yn llwyr yn fuan wedi'r etholiadau'r flwyddyn nesaf."

Wrth ymateb i ddatganiad y Gweinidog, dywedodd Mick Giannasi, un o Gomisiynwyr Ynys Môn, eu bod "fel tîm o bum comisiynydd, rydym yn hyderus, tra bo cryn waith dal ar y gweill a risgiau i'w rheoli, fod y sylfeini ar gyfer gwelliant cynaliadwy ar Ynys Môn yn eu lle i raddau helaeth.

"Fel comisiynwyr credwn, gyda mesurau diogelwch digonol yn eu lle, fod cynghorwyr erbyn hyn wedi haeddu'r cyfle i ddangos eu bod yn awr â'r gallu ac aeddfedrwydd gwleidyddol i ailymafael mewn cyfrifoldeb am redeg y cyngor o ddydd i ddydd."

'Siwrne heriol'

Ychwanegodd Arweinydd y Cyngor, Bryan Owen eu bod yn croesawu datganiad y Gweinidog.

"Mae'r cyfnod yma o ymyrraeth wedi bod yn siwrne heriol, ond angenrheidiol, i'r awdurdod.

"Rydw i a fy nghyd-aelodau, yn enwedig y rhai sy'n rhan o'r pwyllgor gwaith cysgodol, wedi adeiladu perthynas weithiol gref gyda'r Comisiynwyr.

"Mae cynghorwyr wedi bod yn ymrwymedig i fynd i'r afael a'r problemau ac i adeiladu Cyngor cryfach a gwell er budd Ynys Môn."

Ychwanegodd Steve Thomas, Prif Weithredwr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru eu bod hwythau yn croesawu'r datganiad "sy'n disgrifio'r cynnydd sydd wedi ei wneud ar Ynys Môn yn ystod y cyfnod diweddaraf".

"Bydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn parhau i ddarparu cefnogaeth i'r Comisiynwyr, cynghorwyr ac uwch swyddogion wrth weithio tuag at ddychweliad esmwyth a chynaliadwy o bwerau i gynghorwyr lleol maes o law."

Bydd adroddiad Chwarter 4 y Comisiynwyr ar gyfer Ionawr i Fawrth 2012 yn cael ei gyflwyno mewn sesiwn breifat yn ystod Cyfarfod Blynyddol y Cyngor ddydd Iau, Mai 10.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol