Sêl bendith i newidiadau iechyd yn y gogledd?
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Iechyd Cymuned Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi peidio herio penderfyniad dadleuol y bwrdd i symud gwasanaethau gofal dwys babanod newydd-anedig i ysbyty yn Lloegr.
Ni fydd y cyngor chwaith yn cyfeirio cynlluniau dadleuol eraill y bwrdd at y Gweinidog Iechyd, ac i bob pwrpas wedi rhoi sêl eu bendith i gau nifer o ysbytai'r gogledd.
Y cynghorau iechyd cymuned yng Nghymru yw'r cyrff sydd â'r cyfrifoldeb o oruchwylio'r Byrddau Iechyd, gan gynrychioli buddiannau'r cyhoedd.
Wedi cyfarfod arbennig o fwrdd gweithredol y cyngor ddydd Mercher, mae'r cyngor wedi cyhoeddi datganiad.
Bu aelodau'r bwrdd gweithredol yn trafod yn ddwys am "nifer o faterion anodd ac emosiynol" yn eu cyfarfod, gan ystyried barn llawr o bobl a sefydliadau.
Roedden nhw hefyd wedi ystyried gwybodaeth bellach a ddaeth gan y Bwrdd Iechyd ei hun.
Mae'r cyngor wedi penderfynu cefnogi cynlluniau Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ar gyfer:-
Datblygu gwasanaethau cychwynnol a chymunedol;
Darparu mwy o ofal yn y cartref i bobl fregus gan gynnwys defnyddwyr gwasanaethau gofal iechyd meddwl;
Canoli gwasanaethau llawdriniaeth arbenigol a llawdriniaeth fasgwlaidd frys;
Darparu gwasanaethau gofal dwys cymhleth i fabanod newydd-anedig yn Ysbyty Arrowe Park yng Nghilgwri.
Elfennau eraill
Ond dywed y datganiad hefyd: "Fodd bynnag mae elfennau eraill o gynlluniau'r Bwrdd Iechyd sydd angen ystyriaeth bellach, ac yn dilyn y Canllawiau Ymgynghori a Thrafod rydym yn parhau i weithio gyda'r Bwrdd Iechyd - drwy'r cyfnod penderfyniad lleol - i ofyn am eglurdeb a sicrhad ar rai o'r materion eraill yma."
Ond credir mai materion yn ymwneud â chyllid ac amserlenni yw'r rhain, yn hytrach na'r prif gynlluniau i gau nifer o ysbytai cymunedol ac adrannau man anafiadau.
Mae'n edrych yn debyg felly na fydd y CIC yn cyfeirio unrhyw un o brif gynlluniau'r bwrdd iechyd at y Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths, ond ni fydd hynny'n cael ei gadarnhau tan Fawrth 1.
Mae'r cynllun i symud gofal babanod i Gilgwri yn un sydd wedi cael ei feirniadu gan Aelodau Cynulliad o'r pedair prif blaid ynghyd â'r Coleg Nyrsio Brenhinol, cymdeithas feddygol y BMA a'r Coleg Bydwragedd Brenhinol.
Mae'r bwrdd iechyd wedi mynnu nad yw'r gwasanaethau presennol yn Ysbyty Maelor Wrecsam ac Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan yn cwrdd â safonau'r DU, ac y byddai'r newid yn cynnig gwasanaeth gwell i nifer fach o fabanod o'r gogledd sydd angen y gofal arbenigol.
Mewn ymateb fe ddywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr: "Rydym wedi cael datganiad gan y Cyngor Iechyd Cymuned sydd wedi cael ei rhannu â'r wasg.
"Rydym yn cydnabod y penderfyniadau anodd y mae'r Cyngor yn gorfod eu gwneud. Edrychwn ymlaen at gael manylion am yr eglurhad a'r sicrwydd pellach y mae ar y Cyngor ei angen.
"Rydym yn dymuno cydweithio â'r Cyngor Iechyd Cymuned i geisio cael atebion lleol pan fo hynny'n bosibl, fel y gallwn i gyd fod yn siŵr ein bod yn gweithredu er lles pobl Gogledd Cymru."
'Syndod mawr'
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, roedd Aelod Cynulliad y Democratiaid Rhyddfrydol dros Ogledd Cymru, Aled Roberts, wedi ei synnu
"Mae'n syndod mawr i mi nad oes unrhyw un o gynlluniau'r Bwrdd Iechyd wedi cael eu cyfeirio at y Gweinidog Iechyd," meddai.
"Mae'r Cyngor Iechyd Cymuned i fod i gynrychioli barn pobl gogledd Cymru - mae wedi methu â gwneud hynny heddiw. Mae'r holl broses yn codi cwestiynau difrifol am bwrpas Cyngor Iechyd Cymuned.
"Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth ACau gogledd Cymru gwrdd gydag aelodau o'r CIC, a bryd hynny doedden nhw ddim yn fodlon gyda chynlluniau'r Bwrdd Iechyd i symud gofal dwys i fabanod i Arrowe Park.
"Beth sydd wedi digwydd dros gyfnod o wythnos i wneud iddyn nhw newid eu barn?
"Rwy'n annog y CIC i ryddhau'r wybodaeth ychwanegol y maen nhw'n cyfeirio ati yn eu datganiad fel y gallwn graffu'r wybodaeth ymhellach.
"Mae angen i'r CIC egluro pam eu bod wedi gwneud y penderfyniad yma gan ei fod, yn fy marn i, yn un cwbl anghywir."
'Dim asgwrn cefn'
Dywedodd AC Plaid Cymru dros ogledd Cymru, Llŷr Huws Gruffydd: "Maen nhw (y CIC) wedi anwybyddu clinigwyr, y BMA, yr RCN, yr RCM a'r gymuned ehangach ac wedi ochri gyda chynlluniau gwallus y bwrdd iechyd.
"Mae'n benderfyniad di-asgwrn cefn.
"Mae hyn yn achosi mwy a mwy o ddicter ar draws y gogledd gan ein bod yn gweld pryderon didwyll y cyhoedd yn cael eu hanwybyddu.
"Rhaid i'r gweinidog nawr gadw at ei gair ac ymyrryd cyn ei bod yn rhy hwyr."
Mawrth 1
Os nad yw'r Cyngor Iechyd Cymuned yn cymeradwyo unrhyw ran o gynlluniau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, mae ganddyn nhw'r hawl i gyfeirio'r materion hynny at y Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths.
Mae'n rhaid iddyn nhw wneud hynny erbyn Mawrth 1, 2013, a'r gweinidog fydd â'r gair olaf ar y mater. Mae hyn yn wir am gynlluniau bob un o'r byrddau iechyd yng Nghymru.
Yn y cyfamser, mae Cyngor Conwy wedi pleidleisio o blaid cynnig o ddiffyg hyder ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Roedd y cynnig yn cyfeirio'n benodol at aelodau o fwrdd gweithredol y Bwrdd Iechyd, ac nid at reolwyr o fewn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn gyffredinol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd4 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd28 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2013