Arolwg: Cefnogaeth sefydlog i ddatganoli trethi

  • Cyhoeddwyd
Arian
Disgrifiad o’r llun,

Awgrym fod dau o bob tri o blaid pwerau trethi

Mae arolwg barn yn awgrymu fod y gefnogaeth i fwy o ddatganoli grym i'r Cynulliad Cenedlaethol wedi aros yn ei unfan ers y llynedd.

Gwnaed yr arolwg blynyddol ar gyfer Gŵyl Ddewi ar ran BBC Cymru gan ICM.

Mae'r ganran sy'n cefnogi grymoedd dros drethi hefyd wedi aros yr un fath, dau allan o bob tri.

Yn ôl yr arolwg roedd 36% am i'r Cynulliad gael mwy o rymoedd - yr un nifer ag yn 2012.

Roedd 28% o'r farn fod y grymoedd presennol yn ddigonol, o'i gymharu â 29% y llynedd.

Dywedodd 30% na ddylai'r Cynulliad fod ag unrhyw reolaeth o drethi, roedd hynny yn cymharu â 29% y llynedd.

Daw'r arolwg barn ar ôl i Gomisiwn Silk gyhoeddi ei adroddiad cyntaf fis Tachwedd diwethaf.

Cefnogaeth i'r arweinwyr

Roedd y Comisiwn o'r farn y dylid cynnal refferendwm ar y cwestiwn a ddylai Llywodraeth Cymru gael y pwerau i amrywio trethi.

Bu cynnydd yng nghanran y bobl oedd am i Gymru fod yn annibynnol, o 7% y llynedd i 9% eleni.

Gwelwyd gostyngiad yn y rhai oedd am gael gwared ar y Cynulliad, o 22% y llynedd i 20% eleni.

O ran gwleidyddion Carwyn Jones, wnaeth dderbyn y ffigyrau mwyaf calonogol.

Roedd 55% yn credu ei fod yn gwneud gwaith da, 21% yn dweud nad oedd yn gwneud gwaith da, a 24% ddim yn gwybod.

O ran arweinwyr gwleidyddol yng Nghymru, Leanne Wood oedd nesaf. Roedd 37% yn credu ei bod yn gwneud gwaith da, 23% o'r farn nad oedd yn gwneud gwaith da a 40% ddim yn gwybod.

Pan holwyd am David Cameron, dywedodd 32% ei fod yn gwneud gwaith da, tra bod 54% o'r farn nad oedd yn gwneud gwaith da. Doedd 14% ddim yn gwybod.

Fe wnaeth ICM gysytllu a 1,000 o oedolion yng Nghymru ar y ffon rhwng Chwefror 20 a 25.