Gwefannau: Rhybudd i dri

  • Cyhoeddwyd
Parc Cathays, CaerdyddFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Mae Polisi Diogelwch Llywodraeth Cymru yn atgoffa staff na ddylent ymddwyn mewn ffordd sy'n dwyn anfri ar Lywodraeth Cymru

Cafodd tri o weision sifil Llywodraeth Cymru rybudd am gamddefnyddio gwefannau cymdeithasol yn 2012.

Rhoddwyd rhybudd ysgrifenedig cyntaf i un aelod o staff ar ôl i sylwadau o natur wleidyddol gael eu postio ar Facebook.

Cafodd sylwadau'n ymwneud â pholisi Llywodraeth Cymru eu postio ar Twitter, ac felly rhoddwyd rhybudd anffurfiol i was sifil arall.

Rhoddwyd rhybudd anffurfiol arall ar ôl i sylwadau'n ymwneud ag ymgynghoriad ynghylch un o Filiau Llywodraeth Cymru gael eu postio ar Twitter.

Daeth y wybodaeth wedi cais BBC Newyddion Ar-lein o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

'Didueddrwydd gwleidyddol'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Fel aelodau o Wasanaeth Sifil y Deyrnas Unedig, mae disgwyl i staff Llywodraeth Cymru gadw at god y gwasanaeth sifil, sy'n cynnwys gonestrwydd, didueddrwydd gwleidyddol, gwrthrychedd ac uniondeb.

"Nid ydym yn gwneud sylwadau ar faterion staffio penodol".

Yn 2011 rhoddwyd rhybudd ysgrifenedig terfynol i aelod staff am dorri cod y gwasanaeth sifil wedi iddo roi sylwadau amhriodol ar Facebook.

Yn 2010 rhoddwyd rhybudd anffurfiol i aelod am roi sylwadau negyddol ar Facebook am aelod arall, gan ddefnyddio cyfrifiadur personol.

Mae manylion am ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol am resymau personol ym Mholisi Diogelwch Llywodraeth Cymru.

Nid yw'r polisi wedi'i gyfyngu i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol ar beiriannau Llywodraeth Cymru yn unig ond mae'n cynnwys defnydd personol o gyfryngau cymdeithasol y tu allan i oriau gwaith ar beiriannau eraill.

Mae'r polisi yn atgoffa staff na ddylent ymddwyn mewn ffordd sy'n dwyn anfri ar Lywodraeth Cymru wrth ddefnyddio unrhyw rwydweithiau cymdeithasol neu safleoedd blogio hyd yn oed y tu allan i oriau gwaith ar eu peiriannau eu hunain.

Mae tua 5,000 o weision sifil yn gweithio i Lywodraeth Cymru.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol