Cynllun gwerth £47 miliwn i atal effeithiau llifogydd
- Cyhoeddwyd
Mae'r Gweinidog Amgylchedd John Griffiths wedi amlinellu ei gynlluniau gwario ar lifogydd ar gyfer eleni a'r flwyddyn nesaf.
Bydd Llywodraeth Cymru yn gwario £47 miliwn ar gynlluniau i geisio atal effeithiau llifogydd ac erydu'r arfordir.
Cafodd y cyhoeddiad ei wneud yn ystod uwch-gyhnadledd ym Mae Caerdydd yn gynharach.
Bu llifogydd difrifol yn Llanelwy, Sir Ddinbych - lle bu farw un fenyw oedrannus - ac Aberystwyth y llynedd.
'Peryglon'
Dywedodd y Gweinidog Amgylchedd John Griffiths y gall Cymru "wella ein gwarchodaeth rhag llifogydd yng Nghymru" trwy weithio gyda'n gilydd a rhannu gwybodaeth.
Ychwanegodd Mr Griffiths: "Rydym yn gwybod bod ein hinsawdd yn newid, ac o ganlyniad fe fyddwn yn gweld, ac eisoes wedi gweld, cynnydd mewn glaw a stormydd.
"Llifogydd ac erydu'r arfordir yw dau o'r peryglon naturiol mwyaf sy'n ein hwynebu, ac maen nhw'n galli achosi difrod i gartrefi, busnesau, isadeiledd, ac mewn achosion difrifol, colli bywydau.
"Yr hyn sydd angen yw cynllunio cynnar a pharatoi fel y gallwn ymdopi gyda'r heriau sydd o'n blaenau."
Manylion y gwario
Roedd 2012 yn flwyddyn wael iawn i Gymru.
Ym mis Mehefin, disgynnodd gwerth mis o law mewn 24 awr yng Ngheredigion gan daro Aberystwyth a phentrefi cyfagos gyda llifogydd difrifol.
Yna ym mis Tachwedd bu farw menyw 91 oed a bu'n rhaid i dros fil o bobl adael eu cartrefi wedi i Afon Elwy orlifo yn Llanelwy, a daeth llifogydd difrifol hefyd yn Rhuthun.
Ym mis Rhagfyr, dioddefodd Bro Morgannwg lifogydd a bu'n rhaid i drigolion Ystalyfera adael eu cartrefi wedi i dirlithriadau ddod â thunelli o dir i lawr y mynydd.
Bydd yr uwchgynhadledd ddydd Llun yn uno Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, y Swyddfa Dywydd, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, Dŵr Cymru a phartneriaid eraill sy'n gyfrifol am agweddau gwahanol o reoli llifogydd.
Bydd y gweinidog hefyd yn cyhoeddi manylion o sut y bydd y £47m yn cael ei wario.
Ychwanegodd Mr Griffiths y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi arweiniad strategol ac yn darparu buddsoddiad sylweddol, ond fe fydd hefyd yn disgwyl gweld ymrwymiad a chydweithredu gan yr holl asiantaethau eraill.
Dywedodd y Gweinidog Llywodraeth Leol Carl Sargeant bod rôl y gymuned leol hefyd yn bwysig wrth geisio mynd i'r afael â'r heriau a ddaw yn sgil tywydd drwg. Dywedodd bod cymunedau sydd â chynllun llifogydd yn gallu ymateb yn gynt pan mae llifogydd yn digwydd.
"Mae'n hanfodol bod gwasanaethau'n dod at ei gilydd a gweithion' galed i achub bywydau, amddiffyn eiddo a chynorthwyo cymunedau i ymdopi," meddai.
"Amlygwyd hyn yn y llifogydd difrifol a welwyd y llynedd, ac mae gennym ddyled o ddiolchgarwch i'n gwasanaethau brys am eu proffesiynoldeb, eu hymroddiad a'u dyfal barhad."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd18 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2012