Newidiadau: Llythyr i'r gweinidog
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Cymuned Iechyd Gogledd Cymru wedi penderfynu cyfeirio rhai o gynigion Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i Lywodraeth Cymru.
Y newidiadau dan sylw yw'r rhai yng Ngwynedd yn ymwneud â mân anafiadau, pelydr-X a darpariaeth iechyd meddwl ar gyfer yr henoed.
Mae'r mudiad yn eu llythyr i'r Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths, yn cadarnhau eu bod o blaid yr egwyddor o gau pedwar ysbyty cymunedol a symud gwasanaethau arbenigol gofal dwys dros y ffin.
Yn y cyfamser, mae AC Gogledd Cymru Plaid Cymru, Llŷr Huws Gruffydd, wedi dweud "nad yw'r cyngor cymuned iechyd yn gwneud eu gwaith yn iawn".
Pryderon
Dywedodd y cyngor cymuned fod ganddyn nhw bryderon, rhai ohonyn nhw'n ddifrifol, am amserlen y bwrdd iechyd o ran rhoi ar waith newidiadau i'r ysbytai cymunedol.
Mae'r mudiad hefyd wedi dweud eu bod yn bryderus ynglŷn â'r trefniadau gofal wrth i'r newidiadau ddod i rym.
Maen nhw wedi gofyn i Lywodraeth Cymru i fonitro cynllun gweithredu'r bwrdd iechyd yn drwyadl.
O ran gofal arbenigol y newydd-anedig, dywedodd y cyngor cymuned iechyd eu bod yn poeni y gallai colli'r gwasanaeth arwain at golli gwasanaethau arbenigol eraill yng Ngogledd Cymru yn y tymor hir.
Byddai hyn, medden nhw, yn ei gwneud yn anos i recriwtio meddygon arbenigol i'r gwasanaeth iechyd yn y gogledd.
Ond maen nhw o blaid y penderfyniad penodol o symud gofal y babanod mwyaf sâl dros y ffin i Ysbyty Arrowe Park yng Nghilgwri.
'Cam amlwg'
Dywedodd Mr Huws Gruffydd: "Mae'r Cyngor Iechyd Cymunedol wedi codi sawl pryder difrifol ynglŷn â chynlluniau Betsi Cadwaladr i ganoli ac israddio gwasanaethau iechyd lleol.
"Er hyn, mae'n methu â chymryd y cam amlwg a gwrthwynebu'n ffurfiol ...
"Mewn gwirionedd dydyn nhw ddim yn gwneud eu gwaith ... mae'r cwbl bellach yn nwylo'r gweinidog iechyd.
"Rydw i'n mawr obeithio na wneith hi fethu yn yr un modd."
Dywedodd AC Gogledd Cymru y Democratiaid Rhyddfrydol Aled Roberts: "Mae datganiad y cyngor cymuned yn llawn gwrthddywediadau ond, er hynny, rwy'n falch eu bod wedi codi'r pwynt am effaith symud y gwasanaethau i'r newydd-anedig i Loegr.
"Mae hwn yn dangos bod y cyngor cymuned wedi newid eu safiad.
"Dylai'r gweinidog ddefnyddio ei phwerau i alw i mewn holl gynigion y bwrdd iechyd am fod rhai o'r materion wedi eu cyfeirio ati."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2013